Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 31
Prov WelBeibl 31:1  Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa, gan ei fam:
Prov WelBeibl 31:2  O fy mab! O blentyn annwyl fy nghroth, y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw.
Prov WelBeibl 31:3  Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched, a rhoi dy holl egni i'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
Prov WelBeibl 31:4  O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin, ac arweinwyr ddim ysu am gwrw,
Prov WelBeibl 31:5  rhag iddyn nhw yfed ac anghofio'r deddfau, a sathru ar hawliau'r tlodion.
Prov WelBeibl 31:6  Rhowch ddiod feddwol i'r rhai sy'n marw a gwin i'r un sy'n diodde'n chwerw.
Prov WelBeibl 31:7  Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio'u tlodi, a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio'u trafferthion.
Prov WelBeibl 31:8  Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais, ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.
Prov WelBeibl 31:9  Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn, a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd.
Prov WelBeibl 31:10  Pwy sy'n gallu dod o hyd i wraig dda? Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
Prov WelBeibl 31:11  Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr, ac ar ei ennill bob amser.
Prov WelBeibl 31:12  Mae hi'n dda iddo bob amser, a byth yn gwneud drwg.
Prov WelBeibl 31:13  Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arall ac yn mwynhau gweu a gwnïo.
Prov WelBeibl 31:14  Mae hi fel fflyd o longau masnach yn cario bwyd o wledydd pell.
Prov WelBeibl 31:15  Mae hi'n codi yn yr oriau mân i baratoi bwyd i'w theulu, a rhoi gwaith i'w morynion.
Prov WelBeibl 31:16  Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae, a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo.
Prov WelBeibl 31:17  Mae hi'n bwrw iddi'n frwd, ac yn gweithio'n galed.
Prov WelBeibl 31:18  Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo; dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos.
Prov WelBeibl 31:19  Mae hi'n brysur yn nyddu â'i dwylo, a'i bysedd yn trin y gwlân.
Prov WelBeibl 31:20  Mae hi'n rhoi yn hael i'r tlodion, ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen.
Prov WelBeibl 31:21  Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira, am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.
Prov WelBeibl 31:22  Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely, a dillad o liain main drud.
Prov WelBeibl 31:23  Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas, ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.
Prov WelBeibl 31:24  Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu, a dillad i'r masnachwyr eu prynu.
Prov WelBeibl 31:25  Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol, ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.
Prov WelBeibl 31:26  Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser, ac yn garedig wrth ddysgu eraill.
Prov WelBeibl 31:27  Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd, a dydy hi byth yn segur.
Prov WelBeibl 31:28  Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni; ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau,
Prov WelBeibl 31:29  “Mae yna lawer o ferched da i'w cael, ond rwyt ti'n well na nhw i gyd.”
Prov WelBeibl 31:30  Mae prydferthwch yn gallu twyllo, a harddwch yn arwynebol. Gwraig sy'n parchu'r ARGLWYDD sydd yn haeddu cael ei chanmol.
Prov WelBeibl 31:31  Rhowch glod iddi am beth mae wedi'i gyflawni, a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.