PROVERBS
Chapter 14
| Prov | WelBeibl | 14:1 | Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref, ond mae'r un ffôl yn ei rwygo i lawr â'i dwylo ei hun. | |
| Prov | WelBeibl | 14:2 | Mae'r person sy'n byw'n iawn yn parchu'r ARGLWYDD, ond mae'r rhai sy'n twyllo yn ei ddirmygu. | |
| Prov | WelBeibl | 14:3 | Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn, ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn. | |
| Prov | WelBeibl | 14:6 | Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael; ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd. | |
| Prov | WelBeibl | 14:8 | Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd, ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb. | |
| Prov | WelBeibl | 14:9 | Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd, ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn profi ffafr Duw. | |
| Prov | WelBeibl | 14:10 | Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod pa mor chwerw ydy hi, a does neb arall yn gallu rhannu'i llawenydd. | |
| Prov | WelBeibl | 14:11 | Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio, ond bydd cartre'r un sy'n byw'n iawn yn llwyddo. | |
| Prov | WelBeibl | 14:12 | Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. | |
| Prov | WelBeibl | 14:13 | Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin, ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd. | |
| Prov | WelBeibl | 14:14 | Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd, ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd. | |
| Prov | WelBeibl | 14:16 | Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni, ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll. | |
| Prov | WelBeibl | 14:17 | Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl, ac mae'n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau cyfrwys. | |
| Prov | WelBeibl | 14:18 | Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb, ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth. | |
| Prov | WelBeibl | 14:19 | Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da, a'r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau'r cyfiawn. | |
| Prov | WelBeibl | 14:20 | Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu, ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau. | |
| Prov | WelBeibl | 14:21 | Mae rhywun sy'n malio dim am bobl eraill yn pechu, ond mae bendith fawr i'r rhai sy'n helpu pobl mewn angen. | |
| Prov | WelBeibl | 14:22 | Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll? Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon. | |
| Prov | WelBeibl | 14:25 | Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau, ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr. | |
| Prov | WelBeibl | 14:27 | Mae parchu'r ARGLWYDD yn ffynnon sy'n rhoi bywyd, ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth. | |
| Prov | WelBeibl | 14:28 | Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd, ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb. | |
| Prov | WelBeibl | 14:29 | Mae rheoli'ch tymer yn beth call iawn i'w wneud, ond mae colli'ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl. | |
| Prov | WelBeibl | 14:31 | Mae'r un sy'n gormesu'r tlawd yn amharchu ei Grëwr, ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw. | |
| Prov | WelBeibl | 14:32 | Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain, ond mae gonestrwydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn eu cadw nhw'n saff. | |
| Prov | WelBeibl | 14:33 | Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy'n synhwyrol, ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl? | |