PROVERBS
Chapter 10
Prov | WelBeibl | 10:1 | Diarhebion Solomon: Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus; ond mae plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist. | |
Prov | WelBeibl | 10:2 | Dydy ennill ffortiwn drwy dwyll o ddim lles, ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol. | |
Prov | WelBeibl | 10:3 | Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu, ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau. | |
Prov | WelBeibl | 10:5 | Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall, ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd. | |
Prov | WelBeibl | 10:6 | Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. | |
Prov | WelBeibl | 10:8 | Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor, ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio. | |
Prov | WelBeibl | 10:9 | Mae'r un sy'n byw yn onest yn byw'n ddibryder, ond bydd y gwir yn dod i'r golwg am yr un sy'n twyllo. | |
Prov | WelBeibl | 10:10 | Mae'r un sy'n wincio o hyd yn creu helynt, ond mae'r sawl sy'n ceryddu'n agored yn dod â heddwch. | |
Prov | WelBeibl | 10:11 | Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy'n rhoi bywyd, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. | |
Prov | WelBeibl | 10:13 | Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth, ond gwialen sydd ei hangen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin. | |
Prov | WelBeibl | 10:14 | Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth, ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos. | |
Prov | WelBeibl | 10:16 | Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd, ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg. | |
Prov | WelBeibl | 10:17 | Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd, ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn. | |
Prov | WelBeibl | 10:18 | Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo, a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl. | |
Prov | WelBeibl | 10:19 | Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun; mae'r person call yn brathu ei dafod. | |
Prov | WelBeibl | 10:20 | Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr, ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim. | |
Prov | WelBeibl | 10:21 | Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl, ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin. | |
Prov | WelBeibl | 10:22 | Bendith yr ARGLWYDD sy'n cyfoethogi bywyd, dydy ymdrech ddynol yn ychwanegu dim ato. | |
Prov | WelBeibl | 10:23 | Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau, ond doethineb sy'n rhoi mwynhad i bobl gall. | |
Prov | WelBeibl | 10:24 | Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw; ond bydd rhai sy'n byw'n iawn yn cael beth maen nhw eisiau. | |
Prov | WelBeibl | 10:25 | Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio, ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn. | |
Prov | WelBeibl | 10:27 | Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi, ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau. | |
Prov | WelBeibl | 10:29 | Mae'r ARGLWYDD yn gaer i amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn, ond bydd pobl ddrwg yn cael eu dinistrio. | |
Prov | WelBeibl | 10:30 | Fydd y cyfiawn byth yn cael ei symud, ond fydd y rhai drwg ddim yn cael byw yn y tir. | |
Prov | WelBeibl | 10:31 | Mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn siarad yn gall, ond bydd y rhai sy'n twyllo yn cael eu tewi. | |