Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 19
Prov WelBeibl 19:1  Mae'n well bod yn dlawd ac yn onest nag yn ffŵl sy'n dweud celwydd.
Prov WelBeibl 19:2  Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da; mae'r rhai sydd ar ormod o frys yn colli'r ffordd.
Prov WelBeibl 19:3  Ffolineb pobl sy'n difetha'u bywydau, ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD.
Prov WelBeibl 19:4  Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau, ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno.
Prov WelBeibl 19:5  Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; fydd rhywun sy'n palu celwyddau ddim yn dianc.
Prov WelBeibl 19:6  Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig, ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael.
Prov WelBeibl 19:7  Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e; does dim syndod fod ei ffrindiau'n ei osgoi! Mae'n gofyn am help, ond does dim ymateb.
Prov WelBeibl 19:8  Mae'r person doeth yn caru ei fywyd, a'r un sy'n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus.
Prov WelBeibl 19:9  Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; mae wedi darfod ar rywun sy'n palu celwyddau.
Prov WelBeibl 19:10  Dydy byw'n foethus ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr.
Prov WelBeibl 19:11  Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu yn ei erbyn.
Prov WelBeibl 19:12  Mae brenin dig fel llew yn rhuo, ond mae ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
Prov WelBeibl 19:13  Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad, a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid.
Prov WelBeibl 19:14  Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth.
Prov WelBeibl 19:15  Mae diogi yn achosi trwmgwsg; bydd y person diog yn llwgu.
Prov WelBeibl 19:16  Mae'r sawl sy'n cadw'r gorchmynion yn cael byw, ond bydd yr un sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.
Prov WelBeibl 19:17  Mae rhoi yn hael i'r tlawd fel benthyg i'r ARGLWYDD; bydd e'n talu'n ôl iddo am fod mor garedig.
Prov WelBeibl 19:18  Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo, ond paid colli dy limpyn yn llwyr.
Prov WelBeibl 19:19  Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris; os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith.
Prov WelBeibl 19:20  Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd, a byddi'n ddoeth yn y diwedd.
Prov WelBeibl 19:21  Mae gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni.
Prov WelBeibl 19:22  Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person; gwell bod yn dlawd na dweud celwydd.
Prov WelBeibl 19:23  Mae parchu'r ARGLWYDD yn arwain i fywyd; mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg.
Prov WelBeibl 19:24  Mae'r diogyn yn estyn am fwyd, ond yn rhy ddiog i'w godi at ei geg!
Prov WelBeibl 19:25  Cura'r un sy'n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers; cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth.
Prov WelBeibl 19:26  Mae plentyn sy'n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o'i chartref yn achos cywilydd a gwarth.
Prov WelBeibl 19:27  Fy mab, os byddi'n stopio gwrando pan wyt ti'n cael dy gywiro, byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb.
Prov WelBeibl 19:28  Mae tyst sy'n twyllo yn dibrisio cyfiawnder, a phobl ddrwg wrth eu boddau gyda chelwydd.
Prov WelBeibl 19:29  Bydd y rhai sy'n gwawdio yn cael eu cosbi a'r ffyliaid yn cael eu curo.