PROVERBS
Chapter 19
| Prov | WelBeibl | 19:2 | Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da; mae'r rhai sydd ar ormod o frys yn colli'r ffordd. | |
| Prov | WelBeibl | 19:3 | Ffolineb pobl sy'n difetha'u bywydau, ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD. | |
| Prov | WelBeibl | 19:4 | Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau, ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno. | |
| Prov | WelBeibl | 19:5 | Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; fydd rhywun sy'n palu celwyddau ddim yn dianc. | |
| Prov | WelBeibl | 19:6 | Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig, ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael. | |
| Prov | WelBeibl | 19:7 | Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e; does dim syndod fod ei ffrindiau'n ei osgoi! Mae'n gofyn am help, ond does dim ymateb. | |
| Prov | WelBeibl | 19:8 | Mae'r person doeth yn caru ei fywyd, a'r un sy'n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus. | |
| Prov | WelBeibl | 19:9 | Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; mae wedi darfod ar rywun sy'n palu celwyddau. | |
| Prov | WelBeibl | 19:10 | Dydy byw'n foethus ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr. | |
| Prov | WelBeibl | 19:11 | Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu yn ei erbyn. | |
| Prov | WelBeibl | 19:13 | Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad, a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid. | |
| Prov | WelBeibl | 19:14 | Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth. | |
| Prov | WelBeibl | 19:16 | Mae'r sawl sy'n cadw'r gorchmynion yn cael byw, ond bydd yr un sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw. | |
| Prov | WelBeibl | 19:17 | Mae rhoi yn hael i'r tlawd fel benthyg i'r ARGLWYDD; bydd e'n talu'n ôl iddo am fod mor garedig. | |
| Prov | WelBeibl | 19:19 | Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris; os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith. | |
| Prov | WelBeibl | 19:21 | Mae gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni. | |
| Prov | WelBeibl | 19:22 | Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person; gwell bod yn dlawd na dweud celwydd. | |
| Prov | WelBeibl | 19:23 | Mae parchu'r ARGLWYDD yn arwain i fywyd; mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg. | |
| Prov | WelBeibl | 19:25 | Cura'r un sy'n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers; cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth. | |
| Prov | WelBeibl | 19:26 | Mae plentyn sy'n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o'i chartref yn achos cywilydd a gwarth. | |
| Prov | WelBeibl | 19:27 | Fy mab, os byddi'n stopio gwrando pan wyt ti'n cael dy gywiro, byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb. | |
| Prov | WelBeibl | 19:28 | Mae tyst sy'n twyllo yn dibrisio cyfiawnder, a phobl ddrwg wrth eu boddau gyda chelwydd. | |