PROVERBS
Chapter 20
Prov | WelBeibl | 20:1 | Mae gwin yn gwawdio, a chwrw yn creu helynt; dydy'r rhai sy'n meddwi ddim yn ddoeth. | |
Prov | WelBeibl | 20:2 | Mae brenin sy'n bygwth fel llew yn rhuo; mae'r sawl sy'n ei wylltio yn mentro'i fywyd. | |
Prov | WelBeibl | 20:4 | Os nad ydy'r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn, pan ddaw'r cynhaeaf, fydd e'n cael dim byd. | |
Prov | WelBeibl | 20:5 | Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn, ond gall person deallus ei ddwyn i'r golwg. | |
Prov | WelBeibl | 20:6 | Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw, ond pwy allwch chi ei drystio go iawn? | |
Prov | WelBeibl | 20:7 | Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest, mae ei blant wedi'u bendithio'n fawr. | |
Prov | WelBeibl | 20:8 | Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnu yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da. | |
Prov | WelBeibl | 20:9 | Oes unrhyw un yn gallu dweud, “Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân; dw i'n hollol lân a heb bechod”? | |
Prov | WelBeibl | 20:11 | Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio. | |
Prov | WelBeibl | 20:13 | Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd; cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta. | |
Prov | WelBeibl | 20:14 | Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,” ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen. | |
Prov | WelBeibl | 20:15 | Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd; mae geiriau doeth fel gem werthfawr. | |
Prov | WelBeibl | 20:16 | Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr. | |
Prov | WelBeibl | 20:17 | Falle fod bwyd sydd wedi'i ddwyn yn flasus, ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd. | |
Prov | WelBeibl | 20:18 | Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo; ewch i ryfel gyda strategaeth glir. | |
Prov | WelBeibl | 20:19 | Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach; paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod. | |
Prov | WelBeibl | 20:20 | Os ydy rhywun yn melltithio'i dad neu ei fam, bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew. | |
Prov | WelBeibl | 20:21 | Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd, fydd dim bendith yn y diwedd. | |
Prov | WelBeibl | 20:22 | Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!” Disgwyl i'r ARGLWYDD achub dy gam di. | |
Prov | WelBeibl | 20:23 | Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD; dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda. | |
Prov | WelBeibl | 20:24 | Yr ARGLWYDD sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd; sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen? | |
Prov | WelBeibl | 20:25 | Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll, a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud. | |
Prov | WelBeibl | 20:26 | Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da, ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw. | |
Prov | WelBeibl | 20:27 | Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD, yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon. | |
Prov | WelBeibl | 20:28 | Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin, a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd. | |
Prov | WelBeibl | 20:29 | Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc, ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed. | |