Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 30
Prov WelBeibl 30:1  Geiriau Agwr fab Iace, o Massa. Dyma neges y dyn: Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy'r gallu ddim gen i.
Prov WelBeibl 30:2  Dw i'n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol! Does gen i ddim sens.
Prov WelBeibl 30:3  Dw i heb ddysgu bod yn ddoeth, a dw i'n gwybod dim am yr Un Sanctaidd.
Prov WelBeibl 30:4  Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto? Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt? Pwy sydd wedi lapio'r moroedd mewn mantell? Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall? Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? – Dywed os wyt ti'n gwybod.
Prov WelBeibl 30:5  Mae pob un o eiriau Duw wedi'u profi. Mae e'n darian i amddiffyn y rhai sy'n ei drystio.
Prov WelBeibl 30:6  Paid ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti'n dweud celwydd.
Prov WelBeibl 30:7  Dw i'n gofyn am ddau beth gen ti – rho nhw i mi cyn i mi farw:
Prov WelBeibl 30:8  Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo; ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi, ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd.
Prov WelBeibl 30:9  Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i, ac yna dy wrthod di, a dweud, “Pwy ydy'r ARGLWYDD?” A chadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd, a rhoi enw drwg i Dduw.
Prov WelBeibl 30:10  Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu'r pris.
Prov WelBeibl 30:11  Mae yna bobl sy'n melltithio'u tadau, ac sydd ddim yn fendith i'w mamau.
Prov WelBeibl 30:12  Mae yna bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n dda, ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod.
Prov WelBeibl 30:13  Mae yna bobl sydd mor snobyddlyd; maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na pawb arall!
Prov WelBeibl 30:14  Mae yna bobl sydd â dannedd fel cleddyfau, a'u brathiad fel cyllyll. Maen nhw'n llarpio pobl dlawd y tir, a'r rhai hynny sydd mewn angen.
Prov WelBeibl 30:15  Mae gan y gele ddwy ferch, “Rho fwy!” a “Rho fwy!” Mae tri peth sydd byth yn fodlon, pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”:
Prov WelBeibl 30:16  y bedd, croth ddiffrwyth, tir sydd angen dŵr, a thân – dydy'r rhain byth yn dweud “Digon!”
Prov WelBeibl 30:17  Llygad sy'n gwneud sbort am dad ac yn malio dim am wrando ar mam – bydd hi'n cael ei thynnu allan gan gigfrain, a'i bwyta gan y fwltur.
Prov WelBeibl 30:18  Mae tri peth y tu hwnt i mi, pedwar fydda i byth yn eu darganfod:
Prov WelBeibl 30:19  ffordd yr eryr drwy'r awyr; ffordd y neidr dros graig; llwybr llong yn hwylio'r moroedd; a llwybr cariad dyn a merch.
Prov WelBeibl 30:20  Ond ffordd gwraig anffyddlon i'w gŵr ydy: bwyta, sychu ei cheg, a dweud, “Wnes i ddim byd o'i le.”
Prov WelBeibl 30:21  Mae tri peth yn gwneud i'r ddaear grynu, pedwar peth all hi ddim eu diodde:
Prov WelBeibl 30:22  caethwas yn cael ei wneud yn frenin; ffŵl yn cael gormod i'w fwyta;
Prov WelBeibl 30:23  gwraig heb ei charu yn priodi; a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres.
Prov WelBeibl 30:24  Mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach, ond sy'n ddoeth dros ben:
Prov WelBeibl 30:25  morgrug, sy'n greaduriaid bach gwan, ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf.
Prov WelBeibl 30:26  Brochod y graig, sydd ddim yn gryf chwaith, ond sy'n gwneud eu cartrefi yn y creigiau.
Prov WelBeibl 30:27  locustiaid, sydd heb frenin i'w rheoli, ond sy'n mynd allan mewn rhengoedd trefnus;
Prov WelBeibl 30:28  a madfallod – gelli eu dal yn dy law, ond gallan nhw fynd i mewn i balasau brenhinoedd!
Prov WelBeibl 30:29  Mae tri peth sy'n cerdded yn urddasol, pedwar sy'n symud mor hardd:
Prov WelBeibl 30:30  y llew, y cryfaf o'r anifeiliaid, sy'n ffoi oddi wrth ddim byd.
Prov WelBeibl 30:31  ceiliog yn torsythu, bwch gafr, a brenin yn arwain ei bobl.
Prov WelBeibl 30:32  Os wyt ti wedi actio'r ffŵl wrth frolio, neu wedi bod yn cynllwynio drwg, dal dy dafod!
Prov WelBeibl 30:33  Fel mae corddi llaeth yn gwneud menyn, a tharo'r trwyn yn tynnu gwaed, mae gwylltio pobl yn arwain i wrthdaro.