Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
Prov WelBeibl 5:1  Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti; gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud.
Prov WelBeibl 5:2  Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn, ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth.
Prov WelBeibl 5:3  Mae gwefusau'r wraig anfoesol yn diferu fel mêl, a'i geiriau hudol yn llyfn fel olew;
Prov WelBeibl 5:4  Ond mae hi'n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod, ac yn finiog fel cleddyf.
Prov WelBeibl 5:5  Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth; mae ei chamau yn arwain i'r bedd.
Prov WelBeibl 5:6  Dydy hi'n gwybod dim am fywyd go iawn; mae hi ar goll – a ddim yn sylweddoli hynny.
Prov WelBeibl 5:7  Felly, fy mab, gwrando'n ofalus arna i, a phaid troi cefn ar beth dw i'n ddweud.
Prov WelBeibl 5:8  Cadw draw oddi wrthi hi! Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi,
Prov WelBeibl 5:9  rhag i ti golli pob hunan-barch, ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.
Prov WelBeibl 5:10  Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di, ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano.
Prov WelBeibl 5:11  Wedyn byddi'n griddfan yn y diwedd, pan fydd dy gorff wedi'i ddifetha.
Prov WelBeibl 5:12  Byddi'n dweud, “Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint? Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd?
Prov WelBeibl 5:13  Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon, a chymryd sylw o'r rhai oedd yn fy nysgu i?
Prov WelBeibl 5:14  Bu bron i bopeth chwalu'n llwyr i mi, a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.”
Prov WelBeibl 5:15  Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun, ei dŵr ffres hi, a dim un arall.
Prov WelBeibl 5:16  Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di lifo allan i'r strydoedd?
Prov WelBeibl 5:17  Na, cadw hi i ti dy hun, paid gadael i neb arall ei chael.
Prov WelBeibl 5:18  Gad i dy ffynnon gael ei bendithio! Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan oeddet ti'n ifanc
Prov WelBeibl 5:19  – dy ewig hyfryd, dy afr dlos. Gad i'w bronnau roi boddhad i ti, i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.
Prov WelBeibl 5:20  Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol? Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?
Prov WelBeibl 5:21  Cofia fod Duw yn gweld popeth ti'n wneud. Mae'n gweld y cwbl, o'r dechrau i'r diwedd.
Prov WelBeibl 5:22  Bydd yr un sy'n gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni – bydd wedi'i rwymo gan raffau ei bechod ei hun.
Prov WelBeibl 5:23  Bydd yn marw am fod ganddo ddim disgyblaeth, ac wedi meddwi ar chwarae'r ffŵl.