Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 16
Prov WelBeibl 16:1  Mae pobl yn gallu gwneud penderfyniadau, ond yr ARGLWYDD sydd a'r gair olaf.
Prov WelBeibl 16:2  Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion.
Prov WelBeibl 16:3  Rho bopeth wnei di yn nwylo'r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau'n llwyddo.
Prov WelBeibl 16:4  Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae'n ei wneud, hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr.
Prov WelBeibl 16:5  Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch; fyddan nhw'n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi.
Prov WelBeibl 16:6  Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill, a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg.
Prov WelBeibl 16:7  Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio'r ARGLWYDD, mae hyd yn oed ei elynion yn troi'n ffrindiau.
Prov WelBeibl 16:8  Mae'n well cael ychydig a byw'n iawn, na chael cyfoeth mawr drwy fod yn anonest.
Prov WelBeibl 16:9  Mae pobl yn gallu cynllunio beth i'w wneud, ond yr ARGLWYDD sy'n arwain y ffordd.
Prov WelBeibl 16:10  Y brenin sy'n dweud beth ydy beth; dydy e byth yn barnu'n annheg.
Prov WelBeibl 16:11  Mae'r ARGLWYDD eisiau clorian deg; rhaid i bob un o'r pwysau sydd yn y god fod yn gywir.
Prov WelBeibl 16:12  Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith, am mai cyfiawnder sy'n gwneud gorsedd yn ddiogel.
Prov WelBeibl 16:13  Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd; maen nhw'n hoffi pobl onest.
Prov WelBeibl 16:14  Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaeth ond bydd person doeth yn gallu ei dawelu.
Prov WelBeibl 16:15  Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd; mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.
Prov WelBeibl 16:16  Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur; a chael deall yn well nag arian.
Prov WelBeibl 16:17  Mae ffordd glir o flaen yr un sy'n osgoi drygioni; ac mae'r person sy'n gwylio ble mae'n mynd yn saff.
Prov WelBeibl 16:18  Mae balchder yn dod o flaen dinistr, a brolio cyn baglu.
Prov WelBeibl 16:19  Mae'n well bod yn ostyngedig gyda'r anghenus na rhannu ysbail gyda'r balch.
Prov WelBeibl 16:20  Mae'r un sy'n gwrando ar neges Duw yn llwyddo, a'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn hapus.
Prov WelBeibl 16:21  Mae'r person doeth yn cael ei gyfri'n gall, ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu.
Prov WelBeibl 16:22  Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy'n rhoi bywyd i rywun, ond mae ffyliaid yn talu'r pris am eu ffolineb.
Prov WelBeibl 16:23  Mae person doeth yn meddwl cyn siarad; mae ei eiriau'n dwyn perswâd.
Prov WelBeibl 16:24  Mae geiriau caredig fel diliau mêl, yn felys eu blas ac yn iach i'r corff.
Prov WelBeibl 16:25  Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.
Prov WelBeibl 16:26  Mae'r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio'n galed, a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen.
Prov WelBeibl 16:27  Mae dihiryn drwg yn chwilio am helynt, ac mae ei eiriau'n gwneud niwed fel tân.
Prov WelBeibl 16:28  Mae person croes yn achosi cynnen, a'r un sy'n hel clecs yn chwalu ffrindiau.
Prov WelBeibl 16:29  Mae person treisgar yn denu pobl, ac yn eu harwain nhw i wneud pethau sydd ddim yn dda.
Prov WelBeibl 16:30  Mae'n wincio pan mae'n bwriadu twyllo, a rhoi ei fys ar ei wefusau wrth wneud drwg.
Prov WelBeibl 16:31  Mae gwallt gwyn fel coron hardd; mae i'w chael wrth fyw yn gyfiawn.
Prov WelBeibl 16:32  Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli'r tymer yn well na choncro dinas.
Prov WelBeibl 16:33  Mae'r deis yn cael ei daflu, ond mae'r canlyniad yn llaw'r ARGLWYDD.