PROVERBS
Chapter 12
Prov | WelBeibl | 12:1 | Mae rhywun sy'n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth, ond mae'r un sy'n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl! | |
Prov | WelBeibl | 12:2 | Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD, ond mae'r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo. | |
Prov | WelBeibl | 12:3 | Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd, ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn. | |
Prov | WelBeibl | 12:4 | Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin, ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn. | |
Prov | WelBeibl | 12:5 | Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda, ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus. | |
Prov | WelBeibl | 12:6 | Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd, ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw. | |
Prov | WelBeibl | 12:7 | Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu, ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn. | |
Prov | WelBeibl | 12:8 | Mae person deallus yn cael enw da, ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu. | |
Prov | WelBeibl | 12:9 | Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hun na chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd. | |
Prov | WelBeibl | 12:10 | Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid, ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon! | |
Prov | WelBeibl | 12:11 | Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser. | |
Prov | WelBeibl | 12:12 | Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni, ond gwreiddiau'r cyfiawn sy'n rhoi cnwd. | |
Prov | WelBeibl | 12:13 | Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw, ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn osgoi trafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 12:14 | Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud, ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud. | |
Prov | WelBeibl | 12:15 | Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau, ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor. | |
Prov | WelBeibl | 12:16 | Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio, ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi'i sarhau. | |
Prov | WelBeibl | 12:20 | Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwynio i wneud drwg; ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd. | |
Prov | WelBeibl | 12:21 | Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn cael niwed, ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 12:22 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd, ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio. | |
Prov | WelBeibl | 12:23 | Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod, ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens. | |
Prov | WelBeibl | 12:24 | Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr; bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision. | |
Prov | WelBeibl | 12:26 | Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind, ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn. | |
Prov | WelBeibl | 12:27 | Does gan rywun diog byth helfa i'w rhostio, ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr. | |