Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 22
Prov WelBeibl 22:1  Mae enw da yn well na chyfoeth mawr, a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.
Prov WelBeibl 22:2  Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD wnaeth greu'r ddau ohonyn nhw.
Prov WelBeibl 22:3  Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
Prov WelBeibl 22:4  Mae gostyngeiddrwydd a pharch at yr ARGLWYDD yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd.
Prov WelBeibl 22:5  Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo, ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw.
Prov WelBeibl 22:6  Dysga blentyn y ffordd orau i fyw, a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn.
Prov WelBeibl 22:7  Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr.
Prov WelBeibl 22:8  Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion, a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri.
Prov WelBeibl 22:9  Bydd person hael yn cael ei fendithio am rannu ei fwyd gyda'r tlawd.
Prov WelBeibl 22:10  Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio, bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio.
Prov WelBeibl 22:11  Pwy bynnag sy'n ddidwyll a'i eiriau'n garedig, bydd yn ffrindiau gyda'r brenin.
Prov WelBeibl 22:12  Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir, ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud.
Prov WelBeibl 22:13  Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna! Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.”
Prov WelBeibl 22:14  Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn; mae'r rhai sy'n digio'r ARGLWYDD yn syrthio iddo.
Prov WelBeibl 22:15  Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc, bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e.
Prov WelBeibl 22:16  Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd, neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled!
Prov WelBeibl 22:17  Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi'i ddweud, a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti.
Prov WelBeibl 22:18  Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot ti ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser.
Prov WelBeibl 22:19  Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti – er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD.
Prov WelBeibl 22:20  Dw i wedi'u hysgrifennu nhw i lawr – “Y Tri Deg Cyngor Doeth”,
Prov WelBeibl 22:21  i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn, a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di.
Prov WelBeibl 22:22  Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd, na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys.
Prov WelBeibl 22:23  Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw, ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw.
Prov WelBeibl 22:24  Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis, na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt,
Prov WelBeibl 22:26  Paid bod yn rhy barod i gytuno i dalu dyledion rhywun arall;
Prov WelBeibl 22:27  Os na fyddi di'n gallu talu byddi'n colli popeth, hyd yn oed dy wely!
Prov WelBeibl 22:28  Paid symud yr hen ffiniau gafodd eu gosod gan dy hynafiaid.
Prov WelBeibl 22:29  Pan weli di rywun sy'n fedrus yn ei waith – bydd hwnnw'n gwasanaethu brenhinoedd, nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw.