Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 27
Prov WelBeibl 27:1  Paid brolio am beth wnei di yfory, ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod.
Prov WelBeibl 27:2  Gad i rywun arall dy ganmol di, paid ti â brolio dy hun.
Prov WelBeibl 27:3  Mae carreg yn drom ac mae pwysau i dywod, ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau.
Prov WelBeibl 27:4  Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu, ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau.
Prov WelBeibl 27:5  Mae cerydd gonest yn well na pheidio dangos cariad.
Prov WelBeibl 27:6  Mae'n well cael eich brifo gan ffrind na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu.
Prov WelBeibl 27:7  Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl, ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys.
Prov WelBeibl 27:8  Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartref fel aderyn wedi gadael ei nyth.
Prov WelBeibl 27:9  Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.
Prov WelBeibl 27:10  Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu, a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion. Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell.
Prov WelBeibl 27:11  Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus, er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort am fy mhen.
Prov WelBeibl 27:12  Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
Prov WelBeibl 27:13  Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol.
Prov WelBeibl 27:14  Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y bore yn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.
Prov WelBeibl 27:15  Mae gwraig gecrus yr un fath â diwrnod pan mae hi'n glawio'n ddi-stop;
Prov WelBeibl 27:16  mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu, neu ddal olew yn y llaw.
Prov WelBeibl 27:17  Fel haearn yn hogi haearn, mae un person yn hogi meddwl rhywun arall.
Prov WelBeibl 27:18  Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sydd yn bwyta ei ffrwyth, a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu.
Prov WelBeibl 27:19  Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr, mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon.
Prov WelBeibl 27:20  Dydy Annwn ac Abadon byth yn cael digon, a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith.
Prov WelBeibl 27:21  Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur, a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person.
Prov WelBeibl 27:22  Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda phestl mewn mortar ond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael.
Prov WelBeibl 27:23  Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn, a gofala am y geifr;
Prov WelBeibl 27:24  achos dydy cyfoeth ddim yn para am byth, a dydy coron ddim yn aros bob amser.
Prov WelBeibl 27:25  Ar ôl cario'r gwair mae'r glaswellt yn tyfu eto, ac ar ôl i gnwd y bryniau gael ei gasglu,
Prov WelBeibl 27:26  bydd yr ŵyn yn rhoi dillad i ti a'r bychod geifr yn talu am y tir.
Prov WelBeibl 27:27  A bydd digon o laeth geifr i ti fwydo dy deulu, a chadw dy forynion.