Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 1
Prov WelBeibl 1:2  I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn, ac i ti ddeall beth sy'n gyngor call.
Prov WelBeibl 1:3  I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog, yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg.
Prov WelBeibl 1:4  I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall, a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc.
Prov WelBeibl 1:5  (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy, a'r rhai sy'n gall yn derbyn arweiniad.)
Prov WelBeibl 1:6  Hefyd, i ti ddeall dihareb a gallu dehongli dywediadau doeth a phosau.
Prov WelBeibl 1:7  Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf at wybodaeth; does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn.
Prov WelBeibl 1:8  Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud, a phaid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti.
Prov WelBeibl 1:9  Bydd beth ddysgon nhw i ti fel torch hyfryd ar dy ben, neu gadwyni hardd am dy wddf.
Prov WelBeibl 1:10  Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw.
Prov WelBeibl 1:11  Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni! Gad i ni guddio i ymosod ar rywun; mygio rhywun diniwed am ddim rheswm!
Prov WelBeibl 1:12  Gad i ni eu llyncu nhw'n fyw, fel y bedd; a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron â marw.
Prov WelBeibl 1:13  Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr, a llenwi ein tai gyda phethau wedi'u dwyn.
Prov WelBeibl 1:14  Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus – byddwn yn rhannu popeth gawn ni.”
Prov WelBeibl 1:15  Fy mab, paid mynd y ffordd yna; cadw draw oddi wrthyn nhw.
Prov WelBeibl 1:16  Maen nhw'n rhuthro i wneud drwg; maen nhw ar frys i dywallt gwaed.
Prov WelBeibl 1:17  Fel mae'r rhwyd sy'n cael ei gosod yn golygu dim byd i'r aderyn,
Prov WelBeibl 1:18  dŷn nhw ddim yn gweld y perygl – maen nhw'n dinistrio'u bywydau eu hunain!
Prov WelBeibl 1:19  Ie, dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n elwa ar draul eraill; mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun!
Prov WelBeibl 1:20  Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd, ac yn codi ei llais yn y sgwâr.
Prov WelBeibl 1:21  Mae'n sefyll ar gorneli'r strydoedd prysur ac yn galw allan; ac yn dweud ei dweud wrth giatiau'r ddinas:
Prov WelBeibl 1:22  “Ydych chi, bobl wirion, yn mwynhau anwybodaeth? Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati? A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu?
Prov WelBeibl 1:23  Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud! Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon, a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi.
Prov WelBeibl 1:24  Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw, ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi.
Prov WelBeibl 1:25  Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen i ac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu.
Prov WelBeibl 1:26  Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion; fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi'n panicio!
Prov WelBeibl 1:27  Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm, a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt! Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn.
Prov WelBeibl 1:28  Byddwch chi'n galw arna i bryd hynny, ond fydda i ddim yn ateb; byddwch chi'n chwilio'n daer amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi.
Prov WelBeibl 1:29  Roeddech chi wedi gwrthod dysgu, ac wedi dangos dim parch at yr ARGLWYDD.
Prov WelBeibl 1:30  Gwrthod y cyngor rois i, a chymryd dim sylw pan oeddwn i'n dweud y drefn.
Prov WelBeibl 1:31  Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd, a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau.
Prov WelBeibl 1:32  Bydd anufudd-dod pobl wirion yn eu lladd nhw, a difaterwch pobl ddwl yn eu dinistrio.
Prov WelBeibl 1:33  Ond bydd pwy bynnag sy'n gwrando arna i yn saff, yn dawel eu meddwl, ac yn ofni dim.”