Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 13
Prov WelBeibl 13:1  Mae plentyn doeth yn gwrando pan mae ei dad yn ei gywiro, ond dydy plant sy'n meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well ddim yn gwrando ar gerydd.
Prov WelBeibl 13:2  Mae canlyniadau da i eiriau caredig, ond dydy'r twyllwr yn cynnig dim byd ond trais.
Prov WelBeibl 13:3  Mae'r person sy'n ffrwyno'i dafod yn diogelu ei hun, ond yr un sy'n methu cau ei geg yn dinistrio'i hun.
Prov WelBeibl 13:4  Mae'r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim; ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.
Prov WelBeibl 13:5  Mae'r person cyfiawn yn casáu celwydd, ond y person drwg yn dwyn cywilydd a gwarth arno'i hun.
Prov WelBeibl 13:6  Mae cyfiawnder yn amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn, ond mae'r pechadur yn cael ei faglu gan ei ddrygioni.
Prov WelBeibl 13:7  Mae un heb ddim yn cymryd arno ei fod yn gyfoethog, ac un arall yn gyfoethog yn cymryd arno ei fod yn dlawd.
Prov WelBeibl 13:8  Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth, ond dydy'r person tlawd ddim yn cael y broblem yna.
Prov WelBeibl 13:9  Mae golau'r cyfiawn yn disgleirio'n llachar, ond mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.
Prov WelBeibl 13:10  Dydy balchder yn gwneud dim ond creu trafferthion; mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor.
Prov WelBeibl 13:11  Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu'n hawdd, ond bydd cyfoeth sydd wedi'i gasglu o dipyn i beth yn cynyddu.
Prov WelBeibl 13:12  Mae gobaith sy'n cael ei ohirio yn torri'r galon, ond mae dymuniad sy'n dod yn wir fel pren sy'n rhoi bywyd.
Prov WelBeibl 13:13  Bydd pethau'n mynd yn ddrwg i'r un sy'n gwrthod cyngor, ond bydd y person sy'n gwrando ar orchymyn yn cael ei wobrwyo.
Prov WelBeibl 13:14  Mae dysgu gan rai doeth fel ffynnon sy'n rhoi bywyd, ac yn cadw rhywun rhag syrthio i faglau marwolaeth.
Prov WelBeibl 13:15  Mae dangos tipyn o sens yn ennill ffafr, ond mae byw fel twyllwr yn arwain at ddinistr.
Prov WelBeibl 13:16  Mae pawb call yn gwneud beth sy'n ddoeth, ond mae'r ffŵl yn dangos ei dwpdra.
Prov WelBeibl 13:17  Mae negesydd gwael yn achosi dinistr, ond mae negesydd ffyddlon yn dod ag iachâd.
Prov WelBeibl 13:18  Tlodi a chywilydd fydd i'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro; ond bydd y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol.
Prov WelBeibl 13:19  Mae dymuniad wedi'i gyflawni yn beth melys, ond mae'n gas gan ffyliaid droi cefn ar ddrwg.
Prov WelBeibl 13:20  Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi'n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.
Prov WelBeibl 13:21  Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid, ond bydd bywyd yn dda i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.
Prov WelBeibl 13:22  Mae person da yn gadael etifeddiaeth i'w wyrion a'i wyresau, ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.
Prov WelBeibl 13:23  Mae digon o fwyd yn tyfu ar dir pobl dlawd, ond mae anghyfiawnder yn ei ysgubo i ffwrdd.
Prov WelBeibl 13:24  Mae'r sawl sy'n atal y wialen yn casáu ei blentyn; mae'r un sy'n ei garu yn ei ddisgyblu o'r dechrau cyntaf.
Prov WelBeibl 13:25  Mae gan bobl gyfiawn ddigon i'w fwyta, ond boliau gwag sydd gan bobl ddrwg.