Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 12
Prov WelBeibl 12:1  Mae rhywun sy'n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth, ond mae'r un sy'n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl!
Prov WelBeibl 12:2  Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD, ond mae'r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo.
Prov WelBeibl 12:3  Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd, ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn.
Prov WelBeibl 12:4  Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin, ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn.
Prov WelBeibl 12:5  Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda, ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus.
Prov WelBeibl 12:6  Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd, ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw.
Prov WelBeibl 12:7  Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu, ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn.
Prov WelBeibl 12:8  Mae person deallus yn cael enw da, ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu.
Prov WelBeibl 12:9  Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hun na chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd.
Prov WelBeibl 12:10  Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid, ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon!
Prov WelBeibl 12:11  Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser.
Prov WelBeibl 12:12  Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni, ond gwreiddiau'r cyfiawn sy'n rhoi cnwd.
Prov WelBeibl 12:13  Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw, ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn osgoi trafferthion.
Prov WelBeibl 12:14  Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud, ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud.
Prov WelBeibl 12:15  Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau, ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor.
Prov WelBeibl 12:16  Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio, ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi'i sarhau.
Prov WelBeibl 12:17  Mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond tyst celwyddog yn twyllo.
Prov WelBeibl 12:18  Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu, ond mae geiriau doeth yn iacháu.
Prov WelBeibl 12:19  Mae geiriau gwir yn aros bob amser, ond celwydd, mae wedi mynd mewn chwinciad.
Prov WelBeibl 12:20  Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwynio i wneud drwg; ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd.
Prov WelBeibl 12:21  Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn cael niwed, ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion.
Prov WelBeibl 12:22  Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd, ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio.
Prov WelBeibl 12:23  Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod, ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens.
Prov WelBeibl 12:24  Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr; bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision.
Prov WelBeibl 12:25  Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.
Prov WelBeibl 12:26  Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind, ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn.
Prov WelBeibl 12:27  Does gan rywun diog byth helfa i'w rhostio, ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr.
Prov WelBeibl 12:28  Mae byw yn iawn yn arwain i fywyd, ond ffordd arall yn arwain i farwolaeth.