Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 12
Deut WelBeibl 12:1  “Dyma'r rheolau a'r canllawiau dw i eisiau i chi eu cadw pan fyddwch chi'n byw yn y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi'i rhoi i chi.
Deut WelBeibl 12:2  “Mae'n rhaid i chi ddinistrio'n llwyr y mannau hynny lle mae'r bobl fyddwch chi'n cymryd y tir oddi arnyn nhw yn addoli eu duwiau – ar y mynyddoedd a'r bryniau, a than bob coeden ddeiliog.
Deut WelBeibl 12:3  Chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, llosgi polion y dduwies Ashera i lawr, a bwrw'r delwau o'u duwiau nhw i lawr.
Deut WelBeibl 12:4  “Peidiwch addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffordd maen nhw'n addoli eu duwiau.
Deut WelBeibl 12:5  Ewch i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun, a'i addoli yno.
Deut WelBeibl 12:6  Dyna lle byddwch chi'n mynd i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac aberthau eraill, eich rhoddion a'ch degymau, eich offrymau i wneud addewid, eich offrymau gwirfoddol, a'r anifeiliaid cyntaf-anedig – yn wartheg, defaid a geifr.
Deut WelBeibl 12:7  Byddwch chi a'ch teuluoedd yn mynd yno i fwyta a gwledda, ac i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi a rhoi cnydau da i chi.
Deut WelBeibl 12:8  “Rhaid i chi beidio gwneud beth dŷn ni'n ei wneud yma heddiw – pawb yn gwneud beth maen nhw eisiau.
Deut WelBeibl 12:9  Dych chi ddim eto wedi cyrraedd pen y daith, a derbyn yr etifeddiaeth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 12:10  Ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, a setlo yn y wlad mae'n ei rhoi i chi, a pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi, byddwch chi'n saff.
Deut WelBeibl 12:11  Byddwch chi'n mynd i'r lle fydd yr ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun, ac yn mynd â'r pethau dw i'n eu gorchymyn i gyd iddo – offrymau i'w llosgi, aberthau, degymau, eich rhoddion personol, a'r offrymau i wneud adduned dych chi am eu rhoi iddo.
Deut WelBeibl 12:12  “Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi (gan na chawson nhw dir fel y gweddill ohonoch chi).
Deut WelBeibl 12:13  Peidiwch cyflwyno offrymau i'w llosgi lle bynnag dych chi eisiau.
Deut WelBeibl 12:14  Gwnewch y cwbl dw i'n ei orchymyn i chi, ond dim ond yn y lle fydd yr ARGLWYDD wedi'i ddewis.
Deut WelBeibl 12:15  “Ond cewch ladd anifeiliaid i fwyta'u cig lle bynnag dych chi eisiau – cig y gasél a'r carw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, a bydd pawb yn cael ei fwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim.
Deut WelBeibl 12:16  Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed – mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.
Deut WelBeibl 12:17  “A dych chi ddim i fwyta'ch offrymau yn eich pentrefi – y degwm o'r ŷd, y sudd grawnwin a'r olew olewydd, yr anifeiliaid cyntaf-anedig, eich offrymau i wneud adduned a'ch offrymau personol gwirfoddol.
Deut WelBeibl 12:18  Mae'r rhain i gael eu bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi'i ddewis. Dych chi, a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi, i fynd yno i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi drwy roi cnydau mor dda i chi.
Deut WelBeibl 12:19  Gwnewch yn siŵr eich bod chi byth yn esgeuluso'ch cyfrifoldeb tuag at y bobl o lwyth Lefi.
Deut WelBeibl 12:20  “Mae'r ARGLWYDD wedi addo y bydd yn rhoi mwy o dir i chi. Pan fydd yn gwneud hynny, cewch fwyta faint bynnag o gig dych chi eisiau, lle bynnag dych chi eisiau.
Deut WelBeibl 12:21  Os bydd y lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun yn rhy bell i chi deithio iddo, cewch ladd yr anifeiliaid fel dw i wedi dweud wrthoch chi, a'u bwyta nhw yn eich pentrefi.
Deut WelBeibl 12:22  Caiff pawb eu bwyta nhw – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. Cewch fwyta fel petai'n gig gasél neu garw.
Deut WelBeibl 12:23  Ond peidiwch bwyta gwaed ar unrhyw gyfri! Mae'r bywyd yn y gwaed, a rhaid i chi beidio bwyta'r bywyd gyda'r cig.
Deut WelBeibl 12:24  Peidiwch â'i fwyta! Rhaid i chi ei dywallt ar lawr fel dŵr.
Deut WelBeibl 12:25  Peidiwch â'i fwyta, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi a'ch plant ar eich ôl. Byddwch yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 12:26  “Dim ond y pethau sanctaidd, a'r offrymau i wneud adduned, fydd rhaid i chi fynd â nhw i'r lle fydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis.
Deut WelBeibl 12:27  Rhaid i chi gyflwyno'r offrymau sydd i'w llosgi, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD eich Duw. Ac mae gwaed yr aberthau eraill i'w dywallt ar yr allor pan fyddwch chi'n bwyta'r cig.
Deut WelBeibl 12:28  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ei orchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi ac i'ch disgynyddion ar eich ôl. Byddwch chi'n gwneud beth sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 12:29  “Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r bobloedd sydd yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd, byddwch chi'n setlo i lawr yno yn eu lle nhw.
Deut WelBeibl 12:30  Pan fyddan nhw wedi cael eu dinistrio o'ch blaen chi, gwyliwch rhag i chi gael eich trapio, yr un fath â nhw. Peidiwch addoli eu duwiau nhw, na cheisio darganfod sut roedden nhw'n addoli, a meddwl gwneud yr un fath â nhw.
Deut WelBeibl 12:31  Dych chi ddim i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffyrdd roedden nhw'n addoli. Roedden nhw'n gwneud pethau sy'n hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD wrth addoli – pethau mae e'n eu casáu! Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau!
Deut WelBeibl 12:32  “Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth dw i'n ei orchymyn i chi – peidiwch ychwanegu dim na chymryd dim i ffwrdd!