EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 38
Exod | WelBeibl | 38:1 | Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi'r aberthau. Gwnaeth hi o goed acasia, yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. | |
Exod | WelBeibl | 38:2 | Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda phres. | |
Exod | WelBeibl | 38:3 | Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. | |
Exod | WelBeibl | 38:4 | Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. | |
Exod | WelBeibl | 38:5 | A gwnaeth bedwar cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion drwyddyn nhw. | |
Exod | WelBeibl | 38:7 | Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi'i gwneud gyda planciau o bren. | |
Exod | WelBeibl | 38:8 | Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. | |
Exod | WelBeibl | 38:9 | Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau. | |
Exod | WelBeibl | 38:10 | Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. | |
Exod | WelBeibl | 38:12 | Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian. | |
Exod | WelBeibl | 38:13 | Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. | |
Exod | WelBeibl | 38:14 | Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. | |
Exod | WelBeibl | 38:15 | Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. | |
Exod | WelBeibl | 38:17 | Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion. | |
Exod | WelBeibl | 38:18 | Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau ac wedi'u brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder, | |
Exod | WelBeibl | 38:19 | ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian. | |
Exod | WelBeibl | 38:21 | Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith. | |
Exod | WelBeibl | 38:22 | Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Exod | WelBeibl | 38:23 | Ac roedd Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Oholiab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch. | |
Exod | WelBeibl | 38:24 | Aur: 1,000 cilogram – dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi'i gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD) | |
Exod | WelBeibl | 38:26 | Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif – sef 603,550 o ddynion. | |
Exod | WelBeibl | 38:27 | Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig – cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un. | |
Exod | WelBeibl | 38:28 | Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion. | |
Exod | WelBeibl | 38:29 | Pres: bron 2,500 cilogram – (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD) | |
Exod | WelBeibl | 38:30 | Cafodd hwn ei ddefnyddio i wneud socedi i'r fynedfa i babell presenoldeb Duw, yr allor bres, y gratin iddi, offer yr allor i gyd, | |