Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 4
Ezek WelBeibl 4:1  “Ddyn, cymer fricsen fawr, ei gosod o dy flaen a thynnu llun map o ddinas Jerwsalem arni.
Ezek WelBeibl 4:2  Wedyn gwna fodel o fyddin yn gwarchae arni: waliau gwarchae, ramp, gwersylloedd milwyr ac offer fel hyrddod rhyfel o'i chwmpas.
Ezek WelBeibl 4:3  Yna cymer badell haearn, a'i gosod i fyny fel wal haearn rhyngot ti a'r ddinas. Wedyn gwylia hi, drwy'r amser, fel taset ti'n gwarchae arni. Mae beth fyddi di'n wneud yn rhybudd i bobl Israel.
Ezek WelBeibl 4:4  “Yna dw i eisiau i ti orwedd ar dy ochr chwith am dri chant naw deg diwrnod. Byddi'n dioddef wrth orfod cario baich pechod pobl Israel
Ezek WelBeibl 4:5  (diwrnod am bob blwyddyn maen nhw wedi pechu). Wedyn ar ôl i ti gario baich pechod pobl Israel,
Ezek WelBeibl 4:6  gorwedd ar dy ochr dde am bedwar deg diwrnod. Byddi'n cario baich pechod pobl Jwda (sef diwrnod am bob blwyddyn eto).
Ezek WelBeibl 4:7  “Dal ati i wylio'r model o'r gwarchae ar Jerwsalem. Torcha dy lewys, a proffwyda yn erbyn y ddinas.
Ezek WelBeibl 4:8  Bydda i'n dy rwymo di gyda rhaffau, a byddi'n methu symud na throi drosodd nes bydd dyddiau'r gwarchae drosodd.
Ezek WelBeibl 4:9  “Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a'u cadw mewn llestr gyda'i gilydd. Defnyddia'r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di'n ei fwyta pan fyddi'n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod.
Ezek WelBeibl 4:10  Dim ond wyth owns y dydd fyddi di'n ei gael i'w fwyta, a hynny yr un amser bob dydd.
Ezek WelBeibl 4:11  Wedyn ychydig dros hanner litr o ddŵr i'w yfed – hwnnw eto i'w yfed yr un amser bob dydd.
Ezek WelBeibl 4:12  Gwna rywbeth fel bara haidd fflat ohono, a defnyddio carthion dynol wedi'u sychu yn danwydd i'w bobi o flaen pawb.
Ezek WelBeibl 4:13  Gwna hyn fel darlun symbolaidd o'r ffaith y bydd pobl Israel yn bwyta bwyd sy'n aflan ar ôl cael eu gyrru i ganol y gwledydd paganaidd.”
Ezek WelBeibl 4:14  “O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n ‛aflan‛ o'r blaen – fel carcas anifail oedd wedi marw ohono'i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwyllt, neu unrhyw gig sy'n ‛aflan‛.”
Ezek WelBeibl 4:15  Felly dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, cei di ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol. Cei bobi dy fara ar hwnnw.”
Ezek WelBeibl 4:16  Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Yn fuan iawn fydd yna ddim bwyd yn Jerwsalem. Bydd pobl yn poeni am fod bwyd yn brin, ac yn anobeithio am fod y cyflenwad dŵr yn isel.
Ezek WelBeibl 4:17  Byddan nhw'n edrych mewn dychryn ar ei gilydd yn llwgu. Byddan nhw'n gwywo'n ddim o achos eu pechodau.”