GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 13
Gene | WelBeibl | 13:1 | Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda'i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i'r Negef yn ne Canaan. | |
Gene | WelBeibl | 13:2 | Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur. | |
Gene | WelBeibl | 13:3 | Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy'r Negef ac yn ôl i fyny i Bethel. Aeth i'r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai. | |
Gene | WelBeibl | 13:6 | Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda'i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid. | |
Gene | WelBeibl | 13:7 | Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy'r adeg. (Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.) | |
Gene | WelBeibl | 13:8 | Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a'n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni'n perthyn i'r un teulu! | |
Gene | WelBeibl | 13:9 | Edrych, mae'r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu? Dewis di ble wyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i'r cyfeiriad arall.” | |
Gene | WelBeibl | 13:10 | Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu wlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.) | |
Gene | WelBeibl | 13:11 | Felly dyma Lot yn dewis dyffryn Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu. | |
Gene | WelBeibl | 13:12 | Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom. | |
Gene | WelBeibl | 13:14 | Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad. | |
Gene | WelBeibl | 13:16 | Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! | |