GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 8
Gene | WelBeibl | 8:1 | Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr. | |
Gene | WelBeibl | 8:2 | Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio. | |
Gene | WelBeibl | 8:5 | Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg. | |
Gene | WelBeibl | 8:7 | ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear. | |
Gene | WelBeibl | 8:9 | Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch. | |
Gene | WelBeibl | 8:11 | Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd. | |
Gene | WelBeibl | 8:12 | Yna arhosodd am wythnos arall cyn anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl. | |
Gene | WelBeibl | 8:13 | Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd oedd ar do'r arch, a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu. | |
Gene | WelBeibl | 8:17 | Tyrd â phopeth allan – yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall – dw i eisiau iddyn nhw gael haid o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.” | |
Gene | WelBeibl | 8:20 | Yna cododd Noa allor i'r ARGLWYDD ac aberthu rhai o'r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel offrwm i'w losgi. | |
Gene | WelBeibl | 8:21 | Roedd yr aberth yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac meddai wrtho'i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio'r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw'n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud. | |