Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 45
Gene WelBeibl 45:1  Doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen pawb oedd o'i gwmpas. “Pawb allan!” meddai wrth ei weision. Felly wnaeth neb aros gydag e pan ddwedodd wrth ei frodyr pwy oedd e.
Gene WelBeibl 45:2  Ond roedd yn crio mor uchel nes bod pawb drwy'r tŷ yn ei glywed. A daeth palas y Pharo i glywed am y peth.
Gene WelBeibl 45:3  Dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Joseff ydw i! Ydy dad yn dal yn fyw?” Ond allai ei frodyr ddweud dim. Roedden nhw'n sefyll yn fud o'i flaen.
Gene WelBeibl 45:4  A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw'n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i'r Aifft.
Gene WelBeibl 45:5  Peidiwch ypsetio na beio'ch hunain am fy ngwerthu i. Duw anfonodd fi yma o'ch blaen chi i achub bywydau.
Gene WelBeibl 45:6  Dydy'r newyn yn y wlad yma ddim ond wedi para am ddwy flynedd hyd yn hyn. Mae pum mlynedd arall o newyn i ddod pan fydd y cnydau'n methu.
Gene WelBeibl 45:7  Mae Duw wedi fy anfon i yma o'ch blaen chi er mwyn i rai ohonoch chi gael byw, ac i chi gael eich achub mewn ffordd ryfeddol.
Gene WelBeibl 45:8  Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i'n gynghorydd i'r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 45:9  Brysiwch adre i ddweud wrth dad fod Joseff ei fab yn dweud, ‘Mae Duw wedi fy ngwneud i'n bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr yma ata i ar unwaith.
Gene WelBeibl 45:10  Cei fyw yn ardal Gosen. Byddi di'n agos ata i. Tyrd a dy deulu i gyd, a dy anifeiliaid a phopeth sydd gen ti.
Gene WelBeibl 45:11  Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’
Gene WelBeibl 45:12  Edrychwch! Gallwch chi a'm brawd Benjamin weld mai fi sy'n siarad â chi.
Gene WelBeibl 45:13  Rhaid i chi fynd i ddweud wrth dad am fy statws i yma yn yr Aifft, ac am bopeth dych chi wedi'i weld. Dewch â dad i lawr yma ar unwaith.”
Gene WelBeibl 45:14  Wedyn dyma fe'n taflu ei freichiau am Benjamin a'i gofleidio. Roedd y ddau ohonyn nhw yn crio ym mreichiau ei gilydd.
Gene WelBeibl 45:15  Yna, yn dal i grio, cusanodd ei frodyr eraill i gyd. A dyna pryd dechreuodd ei frodyr siarad ag e.
Gene WelBeibl 45:16  Dyma'r newyddion yn cyrraedd palas y Pharo – “Mae brodyr Joseff wedi dod yma.” Roedd y Pharo a'i swyddogion yn hapus iawn.
Gene WelBeibl 45:17  A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Dwed wrth dy frodyr: ‘Llwythwch eich anifeiliaid a mynd yn ôl i Canaan.
Gene WelBeibl 45:18  Wedyn dewch â'ch tad a'ch teuluoedd i gyd ata i. Cewch y tir gorau yn yr Aifft gen i. Cewch fwyta'r bwyd gorau sy'n y wlad.’
Gene WelBeibl 45:19  A dywed hyn wrthyn nhw hefyd, ‘Cymerwch wagenni o'r Aifft i'ch plant a'ch gwragedd a'ch tad gael teithio yn ôl ynddyn nhw.
Gene WelBeibl 45:20  Peidiwch poeni am eich dodrefn. Cewch y gorau o bopeth sydd yma yn yr Aifft.’”
Gene WelBeibl 45:21  Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith.
Gene WelBeibl 45:22  Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian.
Gene WelBeibl 45:23  Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi'u llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi'u llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl.
Gene WelBeibl 45:24  Wedyn dyma fe'n anfon ei frodyr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adael dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Peidiwch dechrau poeni am bethau ar eich ffordd.”
Gene WelBeibl 45:25  Felly dyma nhw'n gadael yr Aifft ac yn dod at eu tad yng ngwlad Canaan.
Gene WelBeibl 45:26  “Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau.
Gene WelBeibl 45:27  Ond pan ddwedon nhw bopeth roedd Joseff wedi'i ddweud wrthyn nhw, a phan welodd y wagenni roedd Joseff wedi'u hanfon, dyma Jacob yn dechrau dod ato'i hun.
Gene WelBeibl 45:28  “Dyna ddigon!” meddai. “Mae Joseff yn fyw. Rhaid i mi fynd i'w weld cyn i mi farw.”