GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 4
Gene | WelBeibl | 4:1 | Cysgodd Adda gyda'i wraig Efa, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi cael plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.” | |
Gene | WelBeibl | 4:2 | Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel. Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir. | |
Gene | WelBeibl | 4:3 | Adeg y cynhaeaf daeth Cain â pheth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i'r ARGLWYDD. | |
Gene | WelBeibl | 4:4 | Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r ARGLWYDD, | |
Gene | WelBeibl | 4:5 | ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a'i offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltio'n lân. Roedd i'w weld ar ei wyneb! | |
Gene | WelBeibl | 4:6 | Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? | |
Gene | WelBeibl | 4:7 | Os gwnei di beth sy'n iawn bydd pethau'n gwella. Ond os na wnei di beth sy'n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.” | |
Gene | WelBeibl | 4:8 | Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a'i ladd. | |
Gene | WelBeibl | 4:9 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?” | |
Gene | WelBeibl | 4:10 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd. | |
Gene | WelBeibl | 4:11 | Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd. | |
Gene | WelBeibl | 4:12 | Byddi'n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.” | |
Gene | WelBeibl | 4:14 | Ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o'r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy'n dod o hyd i mi yn fy lladd.” | |
Gene | WelBeibl | 4:15 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy'n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma'r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai'n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai'n dod o hyd iddo. | |
Gene | WelBeibl | 4:16 | Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod i'r dwyrain o Eden. | |
Gene | WelBeibl | 4:17 | Cysgodd Cain gyda'i wraig, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i'w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‛Enoch‛ ar ôl ei fab. | |
Gene | WelBeibl | 4:18 | Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwiael, Mechwiael yn dad i Methwshael, a Methwshael yn dad i Lamech. | |
Gene | WelBeibl | 4:19 | Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig iddo'i hun – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall. | |
Gene | WelBeibl | 4:20 | Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid. | |
Gene | WelBeibl | 4:22 | Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o'r enw Naamâ. | |
Gene | WelBeibl | 4:23 | Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd: “Ada a Sila, gwrandwch arna i! Wragedd Lamech, sylwch beth dw i'n ddweud: Byddwn i'n lladd dyn am fy anafu i, neu blentyn am fy nharo i. | |
Gene | WelBeibl | 4:24 | Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth, bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!” | |
Gene | WelBeibl | 4:25 | Cysgodd Adda gyda'i wraig eto, a chafodd hi fab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.” | |