GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 23
Gene | WelBeibl | 23:1 | Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti. | |
Gene | WelBeibl | 23:2 | Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti. | |
Gene | WelBeibl | 23:4 | “Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?” | |
Gene | WelBeibl | 23:6 | “Wrth gwrs, syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai'n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.” | |
Gene | WelBeibl | 23:7 | Dyma Abraham yn codi ar ei draed ac yn ymgrymu o flaen y bobl leol, sef disgynyddion Heth. | |
Gene | WelBeibl | 23:8 | Yna dwedodd wrthyn nhw, “Os ydych chi'n hapus i mi gladdu fy ngwraig yma, wnewch chi berswadio Effron fab Sochar | |
Gene | WelBeibl | 23:9 | i werthu'r ogof yn Machpela i mi? Mae'r ogof ar ei dir e, reit ar y ffin. Gwna i dalu'r pris llawn iddo amdani yma, o'ch blaen chi, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.” | |
Gene | WelBeibl | 23:10 | Roedd Effron yn eistedd yno ar y pryd, ac meddai wrth Abraham o flaen pawb oedd yno wrth giât y ddinas, | |
Gene | WelBeibl | 23:11 | “Na, gwranda syr. Dw i'n fodlon gwerthu'r darn hwnnw o dir i gyd i ti, a'r ogof sydd arno. Dw i'n dweud hyn o flaen fy mhobl yma. Dw i'n hapus i ti ei gymryd i gladdu dy wraig.” | |
Gene | WelBeibl | 23:13 | “Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.” | |
Gene | WelBeibl | 23:15 | “Syr. Beth am 400 sicl o arian? Dydy hynny'n ddim byd i ddynion fel ti a fi. Wedyn cei gladdu dy wraig.” | |
Gene | WelBeibl | 23:16 | Felly dyma Abraham yn cytuno i'w dalu. A dyma Abraham yn pwyso'r swm o arian oedd wedi'i gytuno o flaen tystion, a'i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod. | |
Gene | WelBeibl | 23:17 | Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a'r coed oedd o fewn ei ffiniau. | |
Gene | WelBeibl | 23:18 | Roedd disgynyddion Heth, a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb. | |
Gene | WelBeibl | 23:19 | Ar ôl prynu'r tir, dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan. | |