GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 34
Gene | WelBeibl | 34:2 | Pan welodd Sechem hi (Sechem oedd yn fab i bennaeth yr ardal, Hamor yr Hefiad), cipiodd hi, ymosod yn rhywiol arni a'i threisio. | |
Gene | WelBeibl | 34:4 | Aeth at ei dad, Hamor, a dweud, “Dw i eisiau i ti gael y ferch yma yn wraig i mi.” | |
Gene | WelBeibl | 34:5 | Clywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch, Dina. Roedd ei feibion allan yn y wlad yn gofalu am yr anifeiliaid ar y pryd. A phenderfynodd Jacob beidio dweud dim nes iddyn nhw ddod adre. | |
Gene | WelBeibl | 34:7 | Yn y cyfamser, roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo'r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob – rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd. | |
Gene | WelBeibl | 34:8 | Ond dyma Hamor yn apelio arnyn nhw, “Mae Sechem dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â'r ferch. Plîs gadewch iddo'i phriodi hi. | |
Gene | WelBeibl | 34:9 | Gadewch i ni gytuno fod ein plant ni'n cael priodi ei gilydd. Gadewch i'ch merched chi briodi rhai o'n dynion ni, a gewch chi briodi ein merched ni. | |
Gene | WelBeibl | 34:10 | Cewch fyw yma gyda ni. Mae'r wlad o'ch blaen chi. Arhoswch yma. Cewch fynd ble mynnwch chi, a phrynu tir yma.” | |
Gene | WelBeibl | 34:11 | Wedyn dyma Sechem ei hun yn dweud wrth dad a brodyr Dina, “Plîs wnewch chi fy nerbyn i? Dw i'n fodlon rhoi i chi beth bynnag dych chi eisiau. | |
Gene | WelBeibl | 34:12 | Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i'n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi'r ferch yn wraig i mi.” | |
Gene | WelBeibl | 34:13 | Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad. | |
Gene | WelBeibl | 34:14 | Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i'n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny'n gywilydd mawr arnon ni. | |
Gene | WelBeibl | 34:15 | Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o'ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni. | |
Gene | WelBeibl | 34:16 | Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni'n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni'n un bobl. | |
Gene | WelBeibl | 34:17 | Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â'n chwaer gyda ni.” | |
Gene | WelBeibl | 34:19 | Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, cymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.) | |
Gene | WelBeibl | 34:20 | Felly dyma Hamor a'i fab Sechem yn mynd at giât y dre ble roedden nhw'n byw i siarad â'r dynion yno. A dyma ddwedon nhw: | |
Gene | WelBeibl | 34:21 | “Mae'r bobl yma'n gyfeillgar. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad yma, a mynd i ble fynnan nhw. Mae yna ddigon o dir iddyn nhw. Gadewch i ni briodi eu merched nhw, a cân nhw briodi ein merched ni. | |
Gene | WelBeibl | 34:22 | Ond wnân nhw ddim ond cytuno i fyw gyda ni a bod yn un bobl gyda ni ar yr amod yma: rhaid i'n dynion ni i gyd gael eu henwaedu yr un fath â nhw. | |
Gene | WelBeibl | 34:23 | Onid ni fydd piau'r holl anifeiliaid a phopeth arall sydd ganddyn nhw wedyn? Gadewch i ni gytuno gyda nhw a gadael iddyn nhw fyw gyda ni.” | |
Gene | WelBeibl | 34:24 | Dyma'r dynion ar gyngor y dre yn cytuno gyda Hamor a'i fab Sechem. A dyma pob un o ddynion y dre yn mynd drwy'r ddefod o gael eu henwaedu. | |
Gene | WelBeibl | 34:25 | Ddeuddydd wedyn, pan oedden nhw'n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi (brodyr Dina), i mewn i'r dre yn dawel fach, a lladd y dynion i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 34:27 | Wedyn dyma feibion eraill Jacob yn mynd yno ac yn ysbeilio'r cyrff a'r dref, am fod eu chwaer wedi cael ei threisio. | |
Gene | WelBeibl | 34:28 | Cymeron nhw ddefaid a geifr, ychen ac asynnod, a phopeth arall allen nhw ddod o hyd iddo yn y dref ei hun a'r ardal o'i chwmpas – | |
Gene | WelBeibl | 34:30 | “Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi,” meddai Jacob wrth Simeon a Lefi. “Bydd pobl y wlad yma, y Canaaneaid a'r Peresiaid, yn fy nghasáu i. Does dim llawer ohonon ni. Os byddan nhw'n dod at ei gilydd ac ymosod arnon ni, bydd hi ar ben arnon ni i gyd. Byddwn ni'n cael ein dinistrio'n llwyr!” | |