GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 48
Gene | WelBeibl | 48:1 | Rywbryd wedyn clywodd Joseff fod ei dad yn sâl. Felly aeth i'w weld gyda'i ddau fab Manasse ac Effraim. | |
Gene | WelBeibl | 48:2 | Pan ddywedwyd wrth Jacob fod ei fab Joseff wedi dod i'w weld, dyma fe'n bywiogi ac yn eistedd i fyny yn ei wely. | |
Gene | WelBeibl | 48:3 | A dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy'n rheoli popeth wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi | |
Gene | WelBeibl | 48:4 | a dweud wrtho i, ‘Dw i'n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’ | |
Gene | WelBeibl | 48:5 | Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon. | |
Gene | WelBeibl | 48:6 | Bydd y plant eraill sydd gen ti yn aros yn feibion i ti, ond yn cael eu rhestru fel rhai fydd yn etifeddu tir gan eu brodyr. | |
Gene | WelBeibl | 48:7 | “Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i'n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni'n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi'n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath,” (hynny ydy, Bethlehem). | |
Gene | WelBeibl | 48:9 | “Dyma'r meibion roddodd Duw i mi yma,” meddai Joseff wrth ei dad. A dyma Jacob yn dweud, “Plîs, tyrd â nhw ata i, i mi gael eu bendithio nhw.” | |
Gene | WelBeibl | 48:10 | Doedd Jacob ddim yn gweld yn dda iawn. Roedd wedi colli ei olwg wrth fynd yn hen. Felly dyma Joseff yn mynd â'i feibion yn nes at ei dad, a dyma Jacob yn eu cofleidio nhw a'u cusanu nhw. | |
Gene | WelBeibl | 48:11 | Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n dy weld di eto. Mae Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!” | |
Gene | WelBeibl | 48:12 | Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â'i wyneb ar lawr o'i flaen. | |
Gene | WelBeibl | 48:13 | Rhoddodd Joseff Effraim ar yr ochr dde iddo (o flaen llaw chwith Jacob), a Manasse ar yr ochr chwith (o flaen llaw dde Jacob), a mynd â nhw'n nes ato. | |
Gene | WelBeibl | 48:14 | Ond dyma Jacob yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o'r ddau) a'i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf). | |
Gene | WelBeibl | 48:15 | A dyma fe'n bendithio Joseff drwy ddweud, “O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn ei wasanaethu; y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd; | |
Gene | WelBeibl | 48:16 | Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg – bendithia'r bechgyn yma. Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn fyw drwyddyn nhw. Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.” | |
Gene | WelBeibl | 48:17 | Pan sylwodd Joseff fod ei dad wedi rhoi ei law dde ar ben Effraim, doedd e ddim yn hapus. Felly gafaelodd yn llaw dde ei dad i'w symud o ben Effraim i ben Manasse, | |
Gene | WelBeibl | 48:19 | Ond gwrthododd ei dad. “Dw i'n gwybod be dw i'n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion e yn tyfu'n llawer iawn o bobloedd gwahanol.” | |
Gene | WelBeibl | 48:20 | Felly pan fendithiodd nhw y diwrnod hwnnw, dwedodd: “Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill: ‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’” Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn. | |
Gene | WelBeibl | 48:21 | Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti'n ôl i wlad dy hynafiaid. | |