Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 48
Gene WelBeibl 48:1  Rywbryd wedyn clywodd Joseff fod ei dad yn sâl. Felly aeth i'w weld gyda'i ddau fab Manasse ac Effraim.
Gene WelBeibl 48:2  Pan ddywedwyd wrth Jacob fod ei fab Joseff wedi dod i'w weld, dyma fe'n bywiogi ac yn eistedd i fyny yn ei wely.
Gene WelBeibl 48:3  A dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy'n rheoli popeth wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi
Gene WelBeibl 48:4  a dweud wrtho i, ‘Dw i'n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’
Gene WelBeibl 48:5  Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon.
Gene WelBeibl 48:6  Bydd y plant eraill sydd gen ti yn aros yn feibion i ti, ond yn cael eu rhestru fel rhai fydd yn etifeddu tir gan eu brodyr.
Gene WelBeibl 48:7  “Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i'n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni'n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi'n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath,” (hynny ydy, Bethlehem).
Gene WelBeibl 48:8  “Pwy ydy'r rhain?” meddai Jacob pan welodd feibion Joseff.
Gene WelBeibl 48:9  “Dyma'r meibion roddodd Duw i mi yma,” meddai Joseff wrth ei dad. A dyma Jacob yn dweud, “Plîs, tyrd â nhw ata i, i mi gael eu bendithio nhw.”
Gene WelBeibl 48:10  Doedd Jacob ddim yn gweld yn dda iawn. Roedd wedi colli ei olwg wrth fynd yn hen. Felly dyma Joseff yn mynd â'i feibion yn nes at ei dad, a dyma Jacob yn eu cofleidio nhw a'u cusanu nhw.
Gene WelBeibl 48:11  Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n dy weld di eto. Mae Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!”
Gene WelBeibl 48:12  Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â'i wyneb ar lawr o'i flaen.
Gene WelBeibl 48:13  Rhoddodd Joseff Effraim ar yr ochr dde iddo (o flaen llaw chwith Jacob), a Manasse ar yr ochr chwith (o flaen llaw dde Jacob), a mynd â nhw'n nes ato.
Gene WelBeibl 48:14  Ond dyma Jacob yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o'r ddau) a'i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf).
Gene WelBeibl 48:15  A dyma fe'n bendithio Joseff drwy ddweud, “O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn ei wasanaethu; y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd;
Gene WelBeibl 48:16  Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg – bendithia'r bechgyn yma. Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn fyw drwyddyn nhw. Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.”
Gene WelBeibl 48:17  Pan sylwodd Joseff fod ei dad wedi rhoi ei law dde ar ben Effraim, doedd e ddim yn hapus. Felly gafaelodd yn llaw dde ei dad i'w symud o ben Effraim i ben Manasse,
Gene WelBeibl 48:18  a dwedodd wrtho, “Na, dad. Hwn ydy'r mab hynaf. Rho dy law dde ar ei ben e.”
Gene WelBeibl 48:19  Ond gwrthododd ei dad. “Dw i'n gwybod be dw i'n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion e yn tyfu'n llawer iawn o bobloedd gwahanol.”
Gene WelBeibl 48:20  Felly pan fendithiodd nhw y diwrnod hwnnw, dwedodd: “Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill: ‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’” Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn.
Gene WelBeibl 48:21  Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti'n ôl i wlad dy hynafiaid.
Gene WelBeibl 48:22  Dw i am roi siâr fwy i ti nag i dy frodyr – sef llethrau mynydd Sichem, a gymerais oddi ar yr Amoriaid gyda'm cleddyf a'm bwa.”