GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 6
Gene | WelBeibl | 6:2 | dyma'r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw'n cymryd y rhai roedden nhw'n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw'u hunain. | |
Gene | WelBeibl | 6:3 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.” | |
Gene | WelBeibl | 6:4 | Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd. | |
Gene | WelBeibl | 6:5 | Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser. | |
Gene | WelBeibl | 6:6 | Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi'i frifo a'i ddigio. | |
Gene | WelBeibl | 6:7 | Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi'i chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi'u creu nhw yn y lle cyntaf.” | |
Gene | WelBeibl | 6:9 | Dyma hanes Noa a'i deulu: Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw. | |
Gene | WelBeibl | 6:13 | Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i'n mynd i'w dinistrio nhw, a'r byd hefo nhw. | |
Gene | WelBeibl | 6:14 | Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi'i gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a'i selio hi y tu mewn a'r tu allan â phyg. | |
Gene | WelBeibl | 6:16 | Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, ac adeilada dri llawr ynddi – yr isaf, y canol a'r uchaf. | |
Gene | WelBeibl | 6:17 | Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear a boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw. | |
Gene | WelBeibl | 6:18 | Ond bydda i'n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di'n mynd i mewn i'r arch – ti a dy feibion, dy wraig di a'u gwragedd nhw. | |
Gene | WelBeibl | 6:19 | “Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i'r arch hefo ti i'w cadw'n fyw, sef un gwryw ac un benyw. | |
Gene | WelBeibl | 6:20 | Dau o bob math o adar, pob math o anifeiliaid a phob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i'w cadw'n fyw. | |
Gene | WelBeibl | 6:21 | Dos â bwyd o bob math gyda ti hefyd, a'i storio. Digon o fwyd i chi ac i'r anifeiliaid.” | |