GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 37
Gene | WelBeibl | 37:2 | Dyma hanes teulu Jacob: Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda'i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i'w dad. | |
Gene | WelBeibl | 37:3 | Roedd Israel yn caru Joseff fwy na'i feibion eraill i gyd, am fod Joseff wedi cael ei eni pan oedd e'n hen ddyn; ac roedd wedi gwneud côt sbesial iddo. | |
Gene | WelBeibl | 37:4 | Ond roedd ei frodyr yn ei gasáu, am fod eu tad yn caru Joseff fwy na nhw. Doedden nhw ddim yn gallu dweud run gair caredig wrtho. | |
Gene | WelBeibl | 37:5 | Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd, roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth. | |
Gene | WelBeibl | 37:7 | “Roedden ni i gyd wrthi'n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi a sefyll yn syth. A dyma'ch ysgubau chi yn casglu o'i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!” | |
Gene | WelBeibl | 37:8 | “Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti'n mynd i deyrnasu droson ni?” Roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw. | |
Gene | WelBeibl | 37:9 | Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a'r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o mlaen i.” | |
Gene | WelBeibl | 37:10 | Ond pan ddwedodd wrth ei dad a'i frodyr am y freuddwyd, dyma'i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti'n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?” | |
Gene | WelBeibl | 37:13 | A dyma Israel yn dweud wrth Joseff, “Mae dy frodyr wedi mynd â'r praidd i bori i Sichem. Dw i eisiau i ti fynd yno i'w gweld nhw.” “Iawn, dw i'n barod,” meddai Joseff. | |
Gene | WelBeibl | 37:14 | “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae'r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem. Pan gyrhaeddodd Sichem | |
Gene | WelBeibl | 37:15 | dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro o gwmpas. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti'n chwilio?” | |
Gene | WelBeibl | 37:16 | “Dw i'n edrych am fy mrodyr,” meddai Joseff. “Alli di ddweud wrtho i ble maen nhw wedi mynd â'r praidd i bori?” | |
Gene | WelBeibl | 37:17 | A dyma'r dyn yn ateb, “Maen nhw wedi gadael yr ardal yma. Clywais nhw'n dweud eu bod yn mynd i Dothan.” Felly dyma Joseff yn mynd ar eu holau, ac yn dod o hyd iddyn nhw yn Dothan. | |
Gene | WelBeibl | 37:18 | Roedden nhw wedi'i weld yn dod o bell, a chyn iddo gyrraedd dyma nhw'n cynllwynio i'w ladd. | |
Gene | WelBeibl | 37:20 | “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi'i ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!” | |
Gene | WelBeibl | 37:21 | Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â'i ladd,” | |
Gene | WelBeibl | 37:22 | meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i'r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.) | |
Gene | WelBeibl | 37:23 | Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw'n tynnu ei gôt oddi arno (y gôt sbesial roedd e'n ei gwisgo). | |
Gene | WelBeibl | 37:24 | Wedyn dyma nhw'n ei daflu i mewn i'r pydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.) | |
Gene | WelBeibl | 37:25 | Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafán o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm pêr, balm, a myrr i lawr i'r Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 37:26 | A dyma Jwda'n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni'n ennill dim drwy ladd ein brawd a cheisio cuddio'r ffaith. | |
Gene | WelBeibl | 37:27 | Dewch, gadewch i ni ei werthu e i'r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi'r cwbl, mae yn frawd i ni.” A dyma'r brodyr yn cytuno. | |
Gene | WelBeibl | 37:28 | Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw'n tynnu Joseff allan o'r pydew a'i werthu i'r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma'r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i'r Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 37:29 | Yn nes ymlaen dyma Reuben yn dod yn ôl at y pydew. Pan welodd fod Joseff ddim yno, dyma fe'n rhwygo'i ddillad. | |
Gene | WelBeibl | 37:30 | Aeth at ei frodyr, a dweud, “Mae'r bachgen wedi mynd! Sut alla i fynd adre nawr?” | |
Gene | WelBeibl | 37:31 | Yna dyma nhw'n cymryd côt Joseff, lladd gafr ac yna trochi'r gôt yng ngwaed yr anifail. | |
Gene | WelBeibl | 37:32 | Wedyn dyma nhw'n mynd â'r gôt sbesial at eu tad, a dweud, “Daethon ni o hyd i hon. Pwy sydd biau hi? Ai côt dy fab di ydy hi neu ddim?” | |
Gene | WelBeibl | 37:33 | Dyma Jacob yn nabod y gôt. “Ie, côt fy mab i ydy hi! Mae'n rhaid bod anifail gwyllt wedi ymosod arno a'i rwygo'n ddarnau!” | |
Gene | WelBeibl | 37:34 | A dyma fe'n rhwygo'i ddillad a gwisgo sachliain. A buodd yn galaru am ei fab am amser hir. | |
Gene | WelBeibl | 37:35 | Roedd ei feibion a'i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod codi ei galon. “Dw i'n mynd i fynd i'r bedd yn dal i alaru am fy mab,” meddai. Ac roedd yn beichio crio. | |