Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next
Chapter 27
Gene WelBeibl 27:1  Roedd Isaac yn hen ddyn ac yn dechrau mynd yn ddall. Dyma fe'n galw Esau, ei fab hynaf ato,
Gene WelBeibl 27:2  a dweud, “Gwranda, dw i wedi mynd yn hen, a gallwn i farw unrhyw bryd.
Gene WelBeibl 27:3  Cymer dy fwa, a chawell o saethau, a dos allan i hela i mi.
Gene WelBeibl 27:4  Wedyn dw i am i ti baratoi y math o fwyd blasus dw i'n ei hoffi, i mi gael bwyta. Dw i wir eisiau dy fendithio di cyn i mi farw.”
Gene WelBeibl 27:5  Tra oedd Isaac yn dweud hyn wrth Esau, roedd Rebeca wedi bod yn gwrando. Felly pan aeth Esau allan i hela
Gene WelBeibl 27:6  dyma Rebeca'n mynd at Jacob a dweud wrtho, “Dw i newydd glywed dy dad yn dweud wrth Esau dy frawd,
Gene WelBeibl 27:7  ‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’
Gene WelBeibl 27:9  Dewis ddau fyn gafr da i mi o'r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad – y math o fwyd mae'n ei hoffi.
Gene WelBeibl 27:10  Cei di fynd â'r bwyd i dy dad iddo'i fwyta. Wedyn bydd e'n dy fendithio di cyn iddo farw.”
Gene WelBeibl 27:11  “Ond mae Esau yn flewog i gyd,” meddai Jacob wrth ei fam. “Croen meddal sydd gen i.
Gene WelBeibl 27:12  Os gwnaiff dad gyffwrdd fi bydd yn gweld fy mod i'n ceisio ei dwyllo. Bydda i'n dod â melltith arna i fy hun yn lle bendith.”
Gene WelBeibl 27:13  Ond dyma'i fam yn dweud, “Gad i'r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i'n ddweud. Dos i nôl y geifr.”
Gene WelBeibl 27:14  Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i'w fam. A dyma'i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi.
Gene WelBeibl 27:15  Roedd dillad gorau Esau, ei mab hynaf, yn y tŷ gan Rebeca. Dyma hi'n eu cymryd nhw a gwneud i Jacob, ei mab ifancaf, eu gwisgo nhw.
Gene WelBeibl 27:16  Wedyn dyma hi'n cymryd crwyn y myn geifr a'u rhoi nhw ar ddwylo a gwddf Jacob.
Gene WelBeibl 27:17  Yna dyma hi'n rhoi'r bwyd blasus, gyda bara roedd hi wedi'i bobi, i'w mab Jacob.
Gene WelBeibl 27:18  Aeth Jacob i mewn at ei dad. “Dad,” meddai. “Ie, dyma fi,” meddai Isaac. “Pa un wyt ti?”
Gene WelBeibl 27:19  “Esau, dy fab hynaf,” meddai Jacob. “Dw i wedi gwneud beth ofynnaist ti i mi. Tyrd, eistedd i ti gael bwyta o'r helfa. Wedyn cei fy mendithio i.”
Gene WelBeibl 27:20  Ond meddai Isaac, “Sut yn y byd wnest ti ei ddal mor sydyn?” A dyma Jacob yn ateb, “Yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth fy arwain i ato.”
Gene WelBeibl 27:21  Wedyn dyma Isaac yn dweud wrth Jacob, “Tyrd yma i mi gael dy gyffwrdd di. Dw i eisiau bod yn siŵr mai Esau wyt ti.”
Gene WelBeibl 27:22  Felly aeth Jacob at ei dad, a dyma Isaac yn gafael yn ei law. “Llais Jacob dw i'n ei glywed,” meddai, “ond dwylo Esau ydy'r rhain.”
Gene WelBeibl 27:23  (Wnaeth e ddim ei nabod am fod y dwylo'n flewog fel dwylo Esau. Dyna pam wnaeth Isaac fendithio Jacob.)
Gene WelBeibl 27:24  “Fy mab Esau wyt ti go iawn?” gofynnodd Isaac. “Ie,” meddai Jacob.
Gene WelBeibl 27:25  “Tyrd â'r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â'r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo'i yfed hefyd.
Gene WelBeibl 27:26  Wedyn dyma Isaac yn dweud, “Tyrd yma a rho gusan i mi fy mab.”
Gene WelBeibl 27:27  Aeth Jacob ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe'n ei fendithio, a dweud, “Ie, mae fy mab yn arogli fel y tir mae'r ARGLWYDD wedi'i fendithio.
Gene WelBeibl 27:28  Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti, a chnydau gwych o'r tir, – digonedd o ŷd a grawnwin.
Gene WelBeibl 27:29  Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di, a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen. Byddi'n feistr ar dy frodyr, a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen. Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di, ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”
Gene WelBeibl 27:30  Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela.
Gene WelBeibl 27:31  Dyma yntau'n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i'w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.”
Gene WelBeibl 27:32  “Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau.
Gene WelBeibl 27:33  Dechreuodd Isaac grynu drwyddo'n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a'i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!”
Gene WelBeibl 27:34  Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai.
Gene WelBeibl 27:35  Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.”
Gene WelBeibl 27:36  “Mae'r enw Jacob yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?”
Gene WelBeibl 27:37  Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi'i wneud e yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i'w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?”
Gene WelBeibl 27:38  “Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau'n dechrau crio'n uchel.
Gene WelBeibl 27:39  Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn: “Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir, a heb wlith o'r awyr.
Gene WelBeibl 27:40  Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf, ac yn gwasanaethu dy frawd. Ond byddi di'n gwrthryfela, ac yn torri'r iau oedd wedi'i rhoi ar dy ysgwyddau.”
Gene WelBeibl 27:41  Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi'i rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “Bydda i'n lladd Jacob wedyn.”
Gene WelBeibl 27:42  Ond daeth Rebeca i glywed am beth roedd Esau, ei mab hynaf, yn ei ddweud. Felly dyma hi'n galw am Jacob, ei mab ifancaf, ac yn dweud wrtho, “Mae dy frawd Esau yn bwriadu dial arnat ti drwy dy ladd di.
Gene WelBeibl 27:43  Felly gwna beth dw i'n ddweud. Rhaid i ti ddianc ar unwaith at fy mrawd Laban yn Haran.
Gene WelBeibl 27:44  Aros yno gydag e am ychydig, nes bydd tymer dy frawd wedi tawelu.
Gene WelBeibl 27:45  Pan fydd e wedi anghofio beth wnest ti, gwna i anfon amdanat ti, i ti ddod yn ôl. Pam ddylwn i golli'r ddau ohonoch chi'r un diwrnod?”
Gene WelBeibl 27:46  Aeth Rebeca at Isaac a dweud wrtho, “Mae'r merched yma o blith yr Hethiaid yn gwneud bywyd yn annioddefol! Os bydd Jacob yn gwneud yr un peth ag Esau ac yn priodi un o'r merched lleol yma, fydd bywyd ddim yn werth ei fyw!”