GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 19
Gene | WelBeibl | 19:1 | Dyma'r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i'w cyfarch, a phlygu o'u blaenau nhw, â'i wyneb ar lawr. | |
Gene | WelBeibl | 19:2 | “Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i'm tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi'n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw'n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan yn y sgwâr drwy'r nos.” | |
Gene | WelBeibl | 19:3 | Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i'w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres wedi'i wneud heb furum, a dyma nhw'n bwyta. | |
Gene | WelBeibl | 19:4 | Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac yn amgylchynu'r tŷ – dynion hen ac ifanc o bob rhan o'r ddinas. | |
Gene | WelBeibl | 19:5 | A dyma nhw'n galw ar Lot, “Ble mae'r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.” | |
Gene | WelBeibl | 19:8 | Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi? Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i'r dynion yma – maen nhw'n westeion yn fy nghartre i.” | |
Gene | WelBeibl | 19:9 | Ond dyma'r dynion yn ei ateb, “Dos o'r ffordd! Un o'r tu allan wyt ti beth bynnag. Pwy wyt ti i'n barnu ni? Cei di hi'n waeth na nhw gynnon ni!” Dyma nhw'n gwthio yn erbyn Lot, nes bron torri'r drws i lawr. | |
Gene | WelBeibl | 19:10 | Ond dyma'r dynion yn y tŷ yn llwyddo i afael yn Lot a'i dynnu yn ôl i mewn a chau y drws. | |
Gene | WelBeibl | 19:11 | Yna dyma nhw'n gwneud i'r dynion oedd y tu allan gael eu taro'n ddall – pob un ohonyn nhw, o'r ifancaf i'r hynaf. Roedden nhw'n methu dod o hyd i'r drws. | |
Gene | WelBeibl | 19:12 | Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau yma? – meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i'w nôl nhw a gadael y lle yma, | |
Gene | WelBeibl | 19:13 | achos dŷn ni'n mynd i ddinistrio'r ddinas. Mae pobl wedi bod yn cwyno'n ofnadwy am y lle, ac mae'r ARGLWYDD wedi'n hanfon ni i'w ddinistrio.” | |
Gene | WelBeibl | 19:14 | Felly dyma Lot yn mynd i siarad â'r dynion oedd i fod i briodi ei ferched. “Codwch!” meddai, “Rhaid i ni adael y lle yma. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r ddinas.” Ond roedden nhw yn meddwl mai tynnu coes oedd e. | |
Gene | WelBeibl | 19:15 | Ben bore wedyn gyda'r wawr, dyma'r angylion yn dweud wrth Lot am frysio, “Tyrd yn dy flaen. Dos â dy wraig a'r ddwy ferch sydd gen ti, neu byddwch chithau'n cael eich lladd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio!” | |
Gene | WelBeibl | 19:16 | Ond roedd yn llusgo'i draed, felly dyma'r dynion yn gafael yn Lot a'i wraig a'i ferched, a mynd â nhw allan o'r ddinas. (Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato.) | |
Gene | WelBeibl | 19:17 | Ar ôl mynd â nhw allan, dyma un o'r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a pheidiwch stopio nes byddwch chi allan o'r dyffryn yma. Rhedwch i'r bryniau, neu byddwch chi'n cael eich lladd.” | |
Gene | WelBeibl | 19:19 | Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae'r bryniau acw'n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i'n marw cyn cyrraedd. | |
Gene | WelBeibl | 19:20 | Edrych, mae'r dre fach acw'n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae'n lle bach, a bydda i'n cael byw.” | |
Gene | WelBeibl | 19:22 | Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar. | |
Gene | WelBeibl | 19:24 | A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra. | |
Gene | WelBeibl | 19:25 | Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth arall yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion. | |
Gene | WelBeibl | 19:26 | A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a chafodd ei throi'n golofn o halen. | |
Gene | WelBeibl | 19:27 | Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD. | |
Gene | WelBeibl | 19:28 | Edrychodd i lawr ar y dyffryn i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais. | |
Gene | WelBeibl | 19:29 | Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, cofiodd beth roedd wedi'i addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr. | |
Gene | WelBeibl | 19:30 | Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof. | |
Gene | WelBeibl | 19:31 | Dwedodd y ferch hynaf wrth yr ifancaf, “Mae dad yn mynd yn hen, a does yna run dyn yn agos i'r lle yma i roi plant i ni. | |
Gene | WelBeibl | 19:32 | Tyrd, gad i ni wneud i dad feddwi ar win, a chysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.” | |
Gene | WelBeibl | 19:33 | Felly'r noson honno dyma nhw'n rhoi gwin i'w tad a gwneud iddo feddwi. A dyma'r hynaf yn mynd at ei thad a chael rhyw gydag e. Ond roedd yn rhy feddw i wybod dim am y peth. | |
Gene | WelBeibl | 19:34 | Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.” | |
Gene | WelBeibl | 19:35 | Felly dyma nhw'n gwneud i'w tad feddwi y noson honno eto. A dyma'r ifancaf yn mynd at ei thad ac yn cael rhyw gydag e. Ond roedd Lot eto yn rhy feddw i wybod dim am y peth. | |