GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 25
Gene | WelBeibl | 25:3 | Iocsan oedd tad Sheba a Dedan. A disgynyddion Dedan oedd yr Ashwriaid, y Letwshiaid a'r Lewmiaid. | |
Gene | WelBeibl | 25:4 | Wedyn meibion Midian oedd Effa, Effer, Chanoch, Abida ac Eldaä. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra. | |
Gene | WelBeibl | 25:6 | Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny. | |
Gene | WelBeibl | 25:9 | Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre – sef y tir roedd Abraham wedi'i brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara. | |
Gene | WelBeibl | 25:10 | Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre – sef y tir roedd Abraham wedi'i brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara. | |
Gene | WelBeibl | 25:11 | Ar ôl i Abraham farw, dyma Duw yn bendithio Isaac. Aeth i fyw wrth ymyl Beër-lachai-roi. | |
Gene | WelBeibl | 25:12 | Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara: | |
Gene | WelBeibl | 25:13 | Enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf): Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbe-el, Mifsam, | |
Gene | WelBeibl | 25:16 | Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau. | |
Gene | WelBeibl | 25:18 | Roedd ei ddisgynyddion yn byw yn yr ardal rhwng Hafila a Shwr, sy'n ffinio â'r Aifft, i gyfeiriad Ashŵr. Roedd Ishmael yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun. | |
Gene | WelBeibl | 25:20 | Roedd Isaac yn 40 oed pan briododd Rebeca (sef merch Bethwel yr Aramead o Padan-aram, a chwaer Laban yr Aramead). | |
Gene | WelBeibl | 25:21 | Roedd Rebeca'n methu cael plant, felly dyma Isaac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD drosti, a dyma hi'n beichiogi. | |
Gene | WelBeibl | 25:22 | Roedd hi'n disgwyl gefeilliaid, ond roedden nhw'n gwthio ac yn taro ei gilydd yn ei chroth. “Pam mae hyn yn digwydd i mi?” gofynnodd. Aeth i ofyn i'r ARGLWYDD. | |
Gene | WelBeibl | 25:23 | A dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrthi: “Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth. Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd. Bydd un yn gryfach na'r llall, a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.” | |
Gene | WelBeibl | 25:25 | Daeth y cyntaf allan o'r groth yn gochlyd i gyd ac yn flewog fel dilledyn, felly dyma nhw'n ei alw yn Esau. | |
Gene | WelBeibl | 25:26 | Wedyn daeth y llall, yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw yn Jacob. Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni. | |
Gene | WelBeibl | 25:27 | Pan oedd y bechgyn wedi tyfu, roedd Esau yn heliwr gwych, wrth ei fodd yn mynd allan i'r wlad. Ond roedd Jacob yn fachgen tawel, yn hoffi aros gartref. | |
Gene | WelBeibl | 25:28 | Esau oedd ffefryn Isaac, am ei fod yn mwynhau bwyta'r anifeiliaid roedd wedi'u hela. Ond Jacob oedd ffefryn Rebeca. | |
Gene | WelBeibl | 25:29 | Un tro pan oedd Jacob yn coginio cawl, dyma Esau yn dod i mewn wedi blino'n lân ar ôl bod allan yn hela. | |
Gene | WelBeibl | 25:30 | “Dw i bron marw eisiau bwyd,” meddai. “Ga i beth o'r cawl coch yna i'w fwyta gen ti?” (Dyna sut y daeth i gael ei alw yn Edom.) | |
Gene | WelBeibl | 25:33 | “Rhaid i ti addo i mi ar lw,” meddai Jacob. Felly dyma Esau yn addo ar lw, ac yn gwerthu hawliau'r mab hynaf i Jacob; | |