GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 32
Gene | WelBeibl | 32:2 | Pan welodd Jacob nhw, meddai, “Dyma wersyll Duw!” Felly galwodd y lle yn Machanaîm. | |
Gene | WelBeibl | 32:4 | “Fel yma dych chi i siarad gyda fy meistr Esau,” meddai. “Dwedwch wrtho, ‘Dyma mae dy was Jacob yn ei ddweud: Dw i wedi bod yn aros gyda Laban. Dyna ble dw i wedi bod hyd heddiw. | |
Gene | WelBeibl | 32:5 | Mae gen i ychen, asynnod, defaid a geifr, gweision a morynion. Dw i'n anfon i ddweud wrthot ti yn y gobaith y gwnei di fy nerbyn i.’” | |
Gene | WelBeibl | 32:6 | Pan ddaeth y negeswyr yn ôl at Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho, “Aethon ni at dy frawd Esau, ac mae ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Mae ganddo bedwar cant o ddynion gydag e.” | |
Gene | WelBeibl | 32:7 | Roedd gan Jacob ofn am ei fywyd. Rhannodd y bobl oedd gydag e, a'r defaid a'r geifr, yr ychen a'r camelod, yn ddau grŵp. | |
Gene | WelBeibl | 32:8 | “Os bydd Esau yn ymosod ar un grŵp,” meddyliodd, “bydd y grŵp arall yn gallu dianc.” | |
Gene | WelBeibl | 32:9 | Gweddïodd Jacob, “O Dduw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac. Ti ydy'r ARGLWYDD ddwedodd wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad dy hun at dy deulu. Bydda i'n dda i ti.’ | |
Gene | WelBeibl | 32:10 | Dw i'n neb, a ddim yn haeddu'r ffaith dy fod ti wedi bod mor hael a ffyddlon i'r addewid wnest ti i dy was. Doedd gen i ddim byd ond ffon pan es i oddi cartref a chroesi afon Iorddonen. Bellach mae digon ohonon ni i rannu'n ddau grŵp. | |
Gene | WelBeibl | 32:11 | Plîs wnei di'n achub i o afael fy mrawd Esau? Mae gen i ofn iddo ymosod arna i, a lladd y gwragedd a'r plant. | |
Gene | WelBeibl | 32:12 | Rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i'n dda i ti. Bydd dy ddisgynyddion di fel tywod y môr – yn gwbl amhosib i'w cyfri!’” | |
Gene | WelBeibl | 32:16 | Dyma fe'n rhoi'r anifeiliaid mewn grwpiau ar wahân yng ngofal ei weision. “Croeswch yr afon o mlaen i, ond cadwch fwlch rhwng pob grŵp o anifeiliaid,” meddai wrthyn nhw. | |
Gene | WelBeibl | 32:17 | Ac aeth ymlaen i ddweud wrth y gwas fyddai'n arwain y grŵp cyntaf, “Pan fydd fy mrawd Esau yn dy gyfarfod di ac yn gofyn, ‘Gwas pwy wyt ti? Ble rwyt ti'n mynd? Pwy biau'r anifeiliaid yma?’ | |
Gene | WelBeibl | 32:18 | dywed wrtho, ‘Dy was Jacob piau nhw. Mae'n eu hanfon nhw yn anrheg i ti syr. Mae Jacob ei hun ar ei ffordd tu ôl i ni.’” | |
Gene | WelBeibl | 32:19 | Dwedodd yr un peth wrth yr ail was a'r trydydd, a'r gweision oedd yn dilyn yr anifeiliaid. “Dwedwch chi'r un peth wrth Esau. A chofiwch ddweud hefyd, ‘Mae dy was Jacob ar ei ffordd tu ôl i ni.’” | |
Gene | WelBeibl | 32:20 | Roedd Jacob yn gobeithio y byddai'r anrhegion yn ei dawelu cyn i'r ddau gyfarfod wyneb yn wyneb. Roedd yn gobeithio y byddai Esau yn ei dderbyn wedyn. | |
Gene | WelBeibl | 32:21 | Felly cafodd yr anifeiliaid eu hanfon drosodd o'i flaen. Ond arhosodd Jacob yn y gwersyll y noson honno. | |
Gene | WelBeibl | 32:22 | Yn ystod y nos dyma Jacob yn codi a chroesi rhyd Jabboc gyda'i ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un deg un mab. | |
Gene | WelBeibl | 32:23 | Ar ôl mynd â nhw ar draws, dyma fe'n anfon pawb a phopeth arall oedd ganddo drosodd. | |
Gene | WelBeibl | 32:24 | Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac yn ymladd gydag e nes iddi wawrio. | |
Gene | WelBeibl | 32:25 | Pan welodd y dyn nad oedd e'n ennill, dyma fe'n taro Jacob yn ei glun a'i rhoi o'i lle. | |
Gene | WelBeibl | 32:26 | “Gad i mi fynd,” meddai'r dyn, “mae hi'n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.” | |
Gene | WelBeibl | 32:28 | A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi ymladd gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.” | |
Gene | WelBeibl | 32:29 | Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam wyt ti'n gofyn am fy enw i?” meddai'r dyn. Ac wedyn dyma fe'n bendithio Jacob yn y fan honno. | |
Gene | WelBeibl | 32:30 | Felly galwodd Jacob y lle yn Peniel. “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb,” meddai, “a dw i'n dal yn fyw!” | |
Gene | WelBeibl | 32:31 | Roedd yr haul yn tywynnu ar Jacob wrth iddo adael Peniel. Ac roedd yn gloff o achos yr anaf i'w glun. | |