GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 12
Gene | WelBeibl | 12:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti. | |
Gene | WelBeibl | 12:2 | Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill. | |
Gene | WelBeibl | 12:3 | Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.” | |
Gene | WelBeibl | 12:4 | Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.) | |
Gene | WelBeibl | 12:5 | Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi'u cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno | |
Gene | WelBeibl | 12:6 | dyma Abram yn teithio drwy'r wlad ac yn cyrraedd derwen More, oedd yn lle addoli yn Sichem. (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.) | |
Gene | WelBeibl | 12:7 | Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” Felly cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato. | |
Gene | WelBeibl | 12:8 | Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de, a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD. | |
Gene | WelBeibl | 12:10 | Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i'r Aifft i grwydro yno. | |
Gene | WelBeibl | 12:11 | Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti'n ddynes hardd iawn. | |
Gene | WelBeibl | 12:12 | Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw'n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di. | |
Gene | WelBeibl | 12:13 | Dwed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw'n garedig ata i wedyn am eu bod nhw'n dy hoffi di, a bydda i'n saff.” | |
Gene | WelBeibl | 12:14 | Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn. | |
Gene | WelBeibl | 12:15 | Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm. | |
Gene | WelBeibl | 12:16 | Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a chaethferched, a chamelod iddo. | |
Gene | WelBeibl | 12:17 | Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas. | |
Gene | WelBeibl | 12:18 | Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi? | |
Gene | WelBeibl | 12:19 | Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi'n wraig i mi fy hun? Felly dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!” | |