GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 40
Gene | WelBeibl | 40:1 | Beth amser wedyn, dyma brif-fwtler a phen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 40:4 | Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir. | |
Gene | WelBeibl | 40:5 | Un noson, dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd – prif-fwtler a phen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd. | |
Gene | WelBeibl | 40:6 | Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth. | |
Gene | WelBeibl | 40:8 | A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n medru esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.” | |
Gene | WelBeibl | 40:9 | Felly dyma'r prif-fwtler yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd. “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i'n gweld gwinwydden. | |
Gene | WelBeibl | 40:10 | Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni. | |
Gene | WelBeibl | 40:11 | Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi'n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a'i roi iddo i'w yfed.” | |
Gene | WelBeibl | 40:12 | Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen yn cynrychioli tri diwrnod. | |
Gene | WelBeibl | 40:13 | O fewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-fwtler. | |
Gene | WelBeibl | 40:14 | Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma. | |
Gene | WelBeibl | 40:15 | Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y twll yma.” | |
Gene | WelBeibl | 40:16 | Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Rôn i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen. | |
Gene | WelBeibl | 40:17 | Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi'u pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.” | |
Gene | WelBeibl | 40:18 | A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod. | |
Gene | WelBeibl | 40:19 | Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.” | |
Gene | WelBeibl | 40:20 | Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-fwtler a'r pen-pobydd allan o'r carchar. | |
Gene | WelBeibl | 40:22 | Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. | |