Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 41
Gene WelBeibl 41:1  Aeth dwy flynedd gyfan heibio. A dyma'r Pharo yn cael breuddwyd. Roedd yn sefyll wrth afon Nîl,
Gene WelBeibl 41:2  a dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi'u pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan.
Gene WelBeibl 41:3  Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Dyma nhw'n sefyll gyda'r gwartheg eraill ar lan afon Nîl.
Gene WelBeibl 41:4  A dyma'r gwartheg tenau, gwael yn bwyta'r gwartheg oedd yn edrych yn dda. Ac wedyn dyma'r Pharo'n deffro.
Gene WelBeibl 41:5  Pan aeth yn ôl i gysgu cafodd freuddwyd arall. Gwelodd saith tywysen o rawn, oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.
Gene WelBeibl 41:6  A dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael wedi'u crino gan wynt y dwyrain.
Gene WelBeibl 41:7  A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r tywysennau iach. Deffrodd y Pharo a sylweddoli mai breuddwyd arall oedd hi.
Gene WelBeibl 41:8  Y bore wedyn roedd yn teimlo'n anesmwyth, felly galwodd ar swynwyr doeth yr Aifft i ddod i'w weld. Dwedodd wrthyn nhw am ei freuddwyd ond doedd neb yn gallu esbonio ystyr y freuddwyd iddo.
Gene WelBeibl 41:9  Yna dyma'r prif-fwtler yn mynd i siarad â'r Pharo. “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai.
Gene WelBeibl 41:10  “Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda'i weision, ac wedi fy anfon i a'r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu.
Gene WelBeibl 41:11  Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
Gene WelBeibl 41:12  Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon ni wrtho am ein breuddwydion, dyma fe'n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd.
Gene WelBeibl 41:13  A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.”
Gene WelBeibl 41:14  Felly dyma'r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw'n dod ag e allan ar frys o'i gell dan ddaear. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe'n cael ei ddwyn o flaen y Pharo.
Gene WelBeibl 41:15  A dyma'r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i'n deall dy fod ti'n gallu dehongli breuddwydion.”
Gene WelBeibl 41:16  Atebodd Joseff, “Dim fi. Duw ydy'r unig un all wneud i'r Pharo deimlo'n well.”
Gene WelBeibl 41:17  Felly dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i'n sefyll ar lan afon Nîl.
Gene WelBeibl 41:18  Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi'u pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan.
Gene WelBeibl 41:19  Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai oedd yn edrych mor wael yng ngwlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 41:20  A dyma'r gwartheg tenau, gwael yn bwyta'r saith buwch oedd yn edrych yn dda.
Gene WelBeibl 41:21  Ond fyddai neb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, achos roedden nhw'n dal i edrych mor wael ag erioed. Ac wedyn dyma fi'n deffro.
Gene WelBeibl 41:22  “Es i yn ôl i gysgu, a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.
Gene WelBeibl 41:23  Wedyn dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael, wedi gwywo ac wedi'u crino gan wynt y dwyrain.
Gene WelBeibl 41:24  A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r saith tywysen iach. Ond pan ddwedais hyn wrth y swynwyr, doedd neb ohonyn nhw'n gallu dweud yr ystyr wrtho i.”
Gene WelBeibl 41:25  Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.
Gene WelBeibl 41:26  Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg sy'n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd.
Gene WelBeibl 41:27  Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen wag wedi'u crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw'n cynrychioli saith mlynedd o newyn.
Gene WelBeibl 41:28  Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.
Gene WelBeibl 41:29  Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:30  Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha'r wlad.
Gene WelBeibl 41:31  Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol.
Gene WelBeibl 41:32  Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith.
Gene WelBeibl 41:33  Felly dylai'r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:34  Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd.
Gene WelBeibl 41:35  Dylen nhw gasglu'r cnydau yma o'r blynyddoedd da. A dylai'r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio'r grawn fel bod bwyd i'w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i'w warchod.
Gene WelBeibl 41:36  Dylai'r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy'n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.”
Gene WelBeibl 41:37  Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i'r Pharo a'i swyddogion.
Gene WelBeibl 41:38  A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i'r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.”
Gene WelBeibl 41:39  Felly dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, mae'n amlwg fod yna neb sy'n fwy galluog a doeth na ti.
Gene WelBeibl 41:40  Dw i'n rhoi'r gwaith o reoli'r cwbl i ti. Bydd rhaid i'm pobl i gyd wneud fel rwyt ti'n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy'r brenin fydd yn fy ngwneud i'n bwysicach na ti.”
Gene WelBeibl 41:41  Yna dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Dw i'n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.”
Gene WelBeibl 41:42  Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a'i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe'n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf.
Gene WelBeibl 41:43  Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o'i flaen, “I lawr ar eich gliniau!” Felly dyma'r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 41:44  Dwedodd y Pharo wrth Joseff, “Fi ydy'r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.”
Gene WelBeibl 41:45  Rhoddodd y Pharo yr enw Saffnat-paneach i Joseff, a rhoi Asnath, merch Potiffera, offeiriad Heliopolis yn wraig iddo. A dyma Joseff yn mynd allan i reoli gwlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:46  Tri deg oed oedd Joseff pan ddechreuodd weithio i'r Pharo, brenin yr Aifft. Aeth allan oddi wrth y Pharo, a theithio drwy wlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 41:47  Yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd, cafwyd cnydau gwych yn y wlad.
Gene WelBeibl 41:48  Casglodd Joseff y grawn oedd dros ben yn yr Aifft yn ystod y blynyddoedd hynny, a'i storio yn y trefi. Ym mhob tref roedd yn storio cynnyrch yr ardal o'i chwmpas.
Gene WelBeibl 41:49  Llwyddodd i storio swm aruthrol fawr o ŷd; roedd fel y tywod ar lan y môr. Roedd rhaid stopio ei bwyso i gyd am fod gormod ohono.
Gene WelBeibl 41:50  Cyn i'r newyn ddechrau cafodd Joseff ac Asnath, merch Potiffera, ddau fab.
Gene WelBeibl 41:51  Galwodd Joseff ei blentyn cyntaf yn Manasse – “Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion, a'm teulu,” meddai.
Gene WelBeibl 41:52  Galwodd yr ail blentyn yn Effraim – “Mae Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yn y wlad lle dw i wedi diodde,” meddai.
Gene WelBeibl 41:53  Dyma'r saith mlynedd o ddigonedd yng ngwlad yr Aifft yn dod i ben.
Gene WelBeibl 41:54  Yna dechreuodd saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Roedd newyn yn y gwledydd o gwmpas i gyd ond roedd bwyd i'w gael yn yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:55  Pan oedd y newyn wedi dod a tharo'r Aifft, dyma'r bobl yn galw ar y Pharo am fwyd. A dyma'r Pharo yn dweud, “Ewch i weld Joseff, a gwnewch beth bynnag mae e'n ddweud.”
Gene WelBeibl 41:56  Roedd y newyn wedi lledu drwy'r tir, ac agorodd Joseff y stordai a dechrau gwerthu ŷd i bobl yr Aifft, am fod y newyn mor drwm yno.
Gene WelBeibl 41:57  Roedd pobl o bob gwlad yn dod i'r Aifft at Joseff i brynu ŷd am fod y newyn yn drwm drwy'r byd i gyd.