GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 41
Gene | WelBeibl | 41:1 | Aeth dwy flynedd gyfan heibio. A dyma'r Pharo yn cael breuddwyd. Roedd yn sefyll wrth afon Nîl, | |
Gene | WelBeibl | 41:2 | a dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi'u pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan. | |
Gene | WelBeibl | 41:3 | Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Dyma nhw'n sefyll gyda'r gwartheg eraill ar lan afon Nîl. | |
Gene | WelBeibl | 41:4 | A dyma'r gwartheg tenau, gwael yn bwyta'r gwartheg oedd yn edrych yn dda. Ac wedyn dyma'r Pharo'n deffro. | |
Gene | WelBeibl | 41:5 | Pan aeth yn ôl i gysgu cafodd freuddwyd arall. Gwelodd saith tywysen o rawn, oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn. | |
Gene | WelBeibl | 41:6 | A dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael wedi'u crino gan wynt y dwyrain. | |
Gene | WelBeibl | 41:7 | A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r tywysennau iach. Deffrodd y Pharo a sylweddoli mai breuddwyd arall oedd hi. | |
Gene | WelBeibl | 41:8 | Y bore wedyn roedd yn teimlo'n anesmwyth, felly galwodd ar swynwyr doeth yr Aifft i ddod i'w weld. Dwedodd wrthyn nhw am ei freuddwyd ond doedd neb yn gallu esbonio ystyr y freuddwyd iddo. | |
Gene | WelBeibl | 41:9 | Yna dyma'r prif-fwtler yn mynd i siarad â'r Pharo. “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai. | |
Gene | WelBeibl | 41:10 | “Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda'i weision, ac wedi fy anfon i a'r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu. | |
Gene | WelBeibl | 41:11 | Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd. | |
Gene | WelBeibl | 41:12 | Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon ni wrtho am ein breuddwydion, dyma fe'n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd. | |
Gene | WelBeibl | 41:13 | A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.” | |
Gene | WelBeibl | 41:14 | Felly dyma'r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw'n dod ag e allan ar frys o'i gell dan ddaear. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe'n cael ei ddwyn o flaen y Pharo. | |
Gene | WelBeibl | 41:15 | A dyma'r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i'n deall dy fod ti'n gallu dehongli breuddwydion.” | |
Gene | WelBeibl | 41:17 | Felly dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i'n sefyll ar lan afon Nîl. | |
Gene | WelBeibl | 41:18 | Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi'u pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan. | |
Gene | WelBeibl | 41:19 | Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai oedd yn edrych mor wael yng ngwlad yr Aifft i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 41:21 | Ond fyddai neb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, achos roedden nhw'n dal i edrych mor wael ag erioed. Ac wedyn dyma fi'n deffro. | |
Gene | WelBeibl | 41:22 | “Es i yn ôl i gysgu, a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn. | |
Gene | WelBeibl | 41:23 | Wedyn dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael, wedi gwywo ac wedi'u crino gan wynt y dwyrain. | |
Gene | WelBeibl | 41:24 | A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r saith tywysen iach. Ond pan ddwedais hyn wrth y swynwyr, doedd neb ohonyn nhw'n gallu dweud yr ystyr wrtho i.” | |
Gene | WelBeibl | 41:25 | Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud. | |
Gene | WelBeibl | 41:26 | Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg sy'n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. | |
Gene | WelBeibl | 41:27 | Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen wag wedi'u crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw'n cynrychioli saith mlynedd o newyn. | |
Gene | WelBeibl | 41:30 | Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha'r wlad. | |
Gene | WelBeibl | 41:32 | Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith. | |
Gene | WelBeibl | 41:34 | Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd. | |
Gene | WelBeibl | 41:35 | Dylen nhw gasglu'r cnydau yma o'r blynyddoedd da. A dylai'r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio'r grawn fel bod bwyd i'w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i'w warchod. | |
Gene | WelBeibl | 41:36 | Dylai'r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy'n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.” | |
Gene | WelBeibl | 41:38 | A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i'r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.” | |
Gene | WelBeibl | 41:39 | Felly dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, mae'n amlwg fod yna neb sy'n fwy galluog a doeth na ti. | |
Gene | WelBeibl | 41:40 | Dw i'n rhoi'r gwaith o reoli'r cwbl i ti. Bydd rhaid i'm pobl i gyd wneud fel rwyt ti'n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy'r brenin fydd yn fy ngwneud i'n bwysicach na ti.” | |
Gene | WelBeibl | 41:41 | Yna dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Dw i'n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.” | |
Gene | WelBeibl | 41:42 | Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a'i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe'n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf. | |
Gene | WelBeibl | 41:43 | Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o'i flaen, “I lawr ar eich gliniau!” Felly dyma'r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 41:44 | Dwedodd y Pharo wrth Joseff, “Fi ydy'r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.” | |
Gene | WelBeibl | 41:45 | Rhoddodd y Pharo yr enw Saffnat-paneach i Joseff, a rhoi Asnath, merch Potiffera, offeiriad Heliopolis yn wraig iddo. A dyma Joseff yn mynd allan i reoli gwlad yr Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 41:46 | Tri deg oed oedd Joseff pan ddechreuodd weithio i'r Pharo, brenin yr Aifft. Aeth allan oddi wrth y Pharo, a theithio drwy wlad yr Aifft i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 41:48 | Casglodd Joseff y grawn oedd dros ben yn yr Aifft yn ystod y blynyddoedd hynny, a'i storio yn y trefi. Ym mhob tref roedd yn storio cynnyrch yr ardal o'i chwmpas. | |
Gene | WelBeibl | 41:49 | Llwyddodd i storio swm aruthrol fawr o ŷd; roedd fel y tywod ar lan y môr. Roedd rhaid stopio ei bwyso i gyd am fod gormod ohono. | |
Gene | WelBeibl | 41:51 | Galwodd Joseff ei blentyn cyntaf yn Manasse – “Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion, a'm teulu,” meddai. | |
Gene | WelBeibl | 41:52 | Galwodd yr ail blentyn yn Effraim – “Mae Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yn y wlad lle dw i wedi diodde,” meddai. | |
Gene | WelBeibl | 41:54 | Yna dechreuodd saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Roedd newyn yn y gwledydd o gwmpas i gyd ond roedd bwyd i'w gael yn yr Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 41:55 | Pan oedd y newyn wedi dod a tharo'r Aifft, dyma'r bobl yn galw ar y Pharo am fwyd. A dyma'r Pharo yn dweud, “Ewch i weld Joseff, a gwnewch beth bynnag mae e'n ddweud.” | |
Gene | WelBeibl | 41:56 | Roedd y newyn wedi lledu drwy'r tir, ac agorodd Joseff y stordai a dechrau gwerthu ŷd i bobl yr Aifft, am fod y newyn mor drwm yno. | |