GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 47
Gene | WelBeibl | 47:1 | Felly dyma Joseff yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Mae dad a'm brodyr i wedi dod yma o wlad Canaan gyda'u hanifeiliaid a'u heiddo i gyd. Maen nhw wedi cyrraedd ardal Gosen.” | |
Gene | WelBeibl | 47:3 | Gofynnodd y Pharo i'r brodyr, “Beth ydy'ch gwaith chi?” A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision yn fugeiliaid. Dyna mae'r teulu wedi'i wneud ers cenedlaethau.” | |
Gene | WelBeibl | 47:4 | A dyma nhw'n dweud wrth y Pharo, “Dŷn ni wedi dod i aros dros dro yn y wlad yma. Does dim porfa i'n hanifeiliaid ni yn Canaan am fod y newyn mor drwm yno. Plîs wnewch chi adael i'ch gweision aros yn ardal Gosen.” | |
Gene | WelBeibl | 47:6 | Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o'r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.” | |
Gene | WelBeibl | 47:7 | Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo. | |
Gene | WelBeibl | 47:9 | “Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers cant tri deg o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.” | |
Gene | WelBeibl | 47:11 | Felly dyma Joseff yn trefnu lle i'w dad a'i frodyr fyw. Rhoddodd dir iddyn nhw yn y rhan orau o wlad yr Aifft – yn ardal Rameses, fel roedd y Pharo wedi dweud. | |
Gene | WelBeibl | 47:12 | Roedd Joseff hefyd yn rhoi digon o fwyd i gynnal ei dad a'i frodyr, a'r teulu a'u plant i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 47:13 | Doedd dim bwyd yn unman yn y wlad. Roedd y newyn yn wirioneddol ddrwg. Roedd pobl yr Aifft a gwlad Canaan wedi mynd yn wan o achos y newyn. | |
Gene | WelBeibl | 47:14 | Roedd Joseff yn gwerthu ŷd i'r bobl, a chasglodd yr holl arian oedd ar gael drwy wlad yr Aifft a gwlad Canaan; yna aeth a'r arian i balas y Pharo. | |
Gene | WelBeibl | 47:15 | Pan oedd dim arian ar ôl yn yr Aifft na gwlad Canaan, dyma'r Eifftiaid yn mynd at Joseff eto. “Rho fwyd i ni. Pam ddylen ni orfod marw am fod gynnon ni ddim arian?” medden nhw. | |
Gene | WelBeibl | 47:16 | Atebodd Joseff, “Os nad oes gynnoch chi arian, rhowch eich anifeiliaid i mi. Rho i fwyd i chi am eich anifeiliaid.” | |
Gene | WelBeibl | 47:17 | Felly dyma nhw'n dod â'u hanifeiliaid i Joseff. A rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid a'u geifr, eu gwartheg a'u hasynnod. Y flwyddyn honno rhoddodd fwyd iddyn nhw yn gyfnewid am eu hanifeiliaid. | |
Gene | WelBeibl | 47:18 | Pan ddaethon nhw yn ôl y flwyddyn wedyn, dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'n meistr yn gwybod nad oes gynnon ni arian, ac mae ein meistr hefyd wedi cymryd ein hanifeiliaid ni. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gynnig ond ni'n hunain a'n tir. | |
Gene | WelBeibl | 47:19 | Beth ydy'r pwynt os gwnawn ni farw? Pryna ni a'n tir am fwyd. Gwna ni'n gaethweision i'r Pharo, a chymer ein tir ni hefyd. Mae'n well i ni gael byw na marw, ac wedyn fydd y wlad i gyd ddim wedi'i difetha.” | |
Gene | WelBeibl | 47:20 | Felly dyma Joseff yn prynu tir yr Aifft i gyd i'r Pharo. Roedd yr Eifftiaid i gyd yn gwerthu eu caeau iddo, am eu bod nhw'n diodde mor ofnadwy o achos y newyn. Felly'r Pharo oedd piau'r tir i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 47:22 | (Yr unig dir wnaeth e ddim ei brynu oedd tir yr offeiriaid. Roedd yr offeiriaid yn cael lwfans gan y Pharo, ac yn byw ar y lwfans hwnnw. Felly wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.) | |
Gene | WelBeibl | 47:23 | Yna dyma Joseff yn dweud wrth y bobl, “Heddiw dw i wedi'ch prynu chi a'ch tir i'r Pharo. Felly dyma had i chi ei hau ar y tir. | |
Gene | WelBeibl | 47:24 | Adeg y cynhaeaf, rhaid i chi roi un rhan o bump o'r cnwd i'r Pharo. Gewch chi gadw'r gweddill i'w hau y flwyddyn ganlynol ac i fwydo'ch teuluoedd a'ch plant.” | |
Gene | WelBeibl | 47:25 | “Ti wedi achub ein bywydau ni,” medden nhw. “Ti wedi bod yn garedig iawn aton ni, a dŷn ni'n hapus i fod yn gaethweision i'r Pharo.” | |
Gene | WelBeibl | 47:26 | Felly gwnaeth Joseff ddeddf yng ngwlad yr Aifft, fod y Pharo i gael un rhan o bump o'r cynhaeaf. (Mae'r ddeddf hon yn dal mewn grym heddiw.) Yr unig dir oedd ddim yn perthyn i'r Pharo oedd tir yr offeiriaid. | |
Gene | WelBeibl | 47:27 | Felly arhosodd pobl Israel yn yr Aifft, yn ardal Gosen. Nhw oedd piau'r tir yno. Cawson nhw lot o blant, ac roedd eu niferoedd yn mynd yn fwy ac yn fwy. | |
Gene | WelBeibl | 47:28 | Buodd Jacob yn byw yn yr Aifft am un deg saith mlynedd. Felly cafodd fyw i fod yn 147 oed. | |
Gene | WelBeibl | 47:29 | Cyn i Jacob farw, galwodd am ei fab Joseff, a dwedodd wrtho, “Mae gen i ffafr i'w gofyn gen ti. Dw i am i ti fynd ar dy lw ac addo y byddi di'n gwneud be dw i'n ofyn. Plîs paid claddu fi yn yr Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 47:30 | Pan fydda i wedi marw, dos â fi o'r Aifft. Cladda fi ble mae fy hynafiaid wedi'u claddu.” A dyma Joseff yn ateb, “Dw i'n addo gwneud beth ti'n ofyn.” | |