Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 17
Gene WelBeibl 17:1  Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau.
Gene WelBeibl 17:2  Bydda i'n gwneud ymrwymiad rhyngon ni'n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
Gene WelBeibl 17:3  Plygodd Abram â'i wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho,
Gene WelBeibl 17:4  “Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud i ti: byddi di'n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol.
Gene WelBeibl 17:5  A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol.
Gene WelBeibl 17:6  Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
Gene WelBeibl 17:7  Bydda i'n cadarnhau fy ymrwymiad i ti ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i'n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di.
Gene WelBeibl 17:8  A dw i'n mynd i roi'r wlad lle rwyt ti'n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.”
Gene WelBeibl 17:9  Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad – ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau.
Gene WelBeibl 17:10  Dyma mae'n rhaid i chi ei wneud: Rhaid i bob gwryw fynd drwy ddefod enwaediad.
Gene WelBeibl 17:11  Byddwch yn torri'r blaengroen fel arwydd o'r ymrwymiad rhyngon ni.
Gene WelBeibl 17:12  I lawr y cenedlaethau bydd rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae'n wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy'n perthyn i'r teulu, a'ch caethweision a'u plant.
Gene WelBeibl 17:13  Bydd rhaid i'r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a'u plant nhw, fynd drwy ddefod enwaediad hefyd. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i'w weld ar y corff am byth.
Gene WelBeibl 17:14  Bydd unrhyw wryw sydd heb fynd drwy ddefod enwaediad yn cael ei dorri allan o'r gymuned, am ei fod heb gadw gofynion yr ymrwymiad.”
Gene WelBeibl 17:15  Wedyn dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “I droi at Sarai, dy wraig. Ti ddim i'w galw hi'n Sarai o hyn ymlaen, ond Sara.
Gene WelBeibl 17:16  Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a rhoi mab i ti ohoni hi. Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a bydd hi yn fam i lawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd gwahanol bobloedd yn dod ohoni.”
Gene WelBeibl 17:17  Aeth Abraham ar ei wyneb ar lawr eto, ond yna chwerthin iddo'i hun, a meddwl, “Sut all dyn sy'n gant oed gael plentyn? Ydy Sara, sy'n naw deg oed, yn gallu cael babi?”
Gene WelBeibl 17:18  Yna dyma Abraham yn dweud wrth Dduw, “Pam wnei di ddim gadael i Ishmael dderbyn y bendithion yna?”
Gene WelBeibl 17:19  “Na,” meddai Duw, “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i'w alw yn Isaac. Bydda i'n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi'i wneud – ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl.
Gene WelBeibl 17:20  Ond dw i wedi clywed beth ti'n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i'n ei fendithio ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i'n ei wneud yn genedl fawr.
Gene WelBeibl 17:21  Ond gydag Isaac y bydda i'n cadarnhau'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma'r flwyddyn nesa.”
Gene WelBeibl 17:22  Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham.
Gene WelBeibl 17:23  Felly'r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a'i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi'u prynu) – pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
Gene WelBeibl 17:24  Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu,
Gene WelBeibl 17:26  Cafodd y ddau ohonyn nhw eu henwaedu yr un diwrnod.
Gene WelBeibl 17:27  A chafodd pob un o'r dynion a'r bechgyn eraill oedd gydag e eu henwaedu hefyd (y gweision oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi'u prynu).