Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 38
Gene WelBeibl 38:1  Tua'r adeg honno, dyma Jwda yn gadael ei frodyr ac yn ymuno â dyn o Adwlam o'r enw Chira.
Gene WelBeibl 38:2  Yno dyma fe'n cyfarfod ac yn priodi merch i ddyn o Canaan o'r enw Shwa. Cysgodd gyda hi,
Gene WelBeibl 38:3  a dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. Galwodd Jwda'r plentyn yn Er.
Gene WelBeibl 38:4  Wedyn dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall, a'i alw yn Onan.
Gene WelBeibl 38:5  A chafodd fab arall eto a'i alw yn Shela. Roedd Jwda yn Chesib pan gafodd hi'r plentyn hwnnw.
Gene WelBeibl 38:6  Dyma Jwda yn cael gwraig i Er, ei fab hynaf. Tamar oedd ei henw hi.
Gene WelBeibl 38:7  Ond roedd Er yn ddrwg, a dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddo farw.
Gene WelBeibl 38:8  Felly dwedodd Jwda wrth Onan, brawd Er, “Dy le di ydy cymryd gwraig dy frawd Er, a magu teulu iddo.”
Gene WelBeibl 38:9  Ond roedd Onan yn gwybod na fyddai'r plant yn cael eu cyfri yn blant iddo fe. Felly bob tro roedd e'n cael rhyw gyda Tamar, roedd yn gwneud yn siŵr fod ei had ddim yn mynd iddi, rhag ofn iddi feichiogi. Doedd arno ddim eisiau rhoi plentyn i'w frawd.
Gene WelBeibl 38:10  Roedd beth wnaeth e'n ddrwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, felly dyma Duw yn gadael iddo fe farw hefyd.
Gene WelBeibl 38:11  Yna dyma Jwda yn dweud wrth Tamar, ei ferch-yng-nghyfraith, “Dos adre at dy dad, ac aros yn weddw nes bydd Shela, fy mab arall, wedi tyfu.” (Ond ofni i Shela farw hefyd, fel ei frodyr, oedd Jwda.) Felly aeth Tamar adre i fyw at ei thad.
Gene WelBeibl 38:12  Beth amser wedyn dyma wraig Jwda (sef merch Shwa) yn marw. Pan oedd y cyfnod i alaru drosodd, dyma Jwda a'i ffrind Chira o Adwlam yn mynd i Timna i gneifio'i ddefaid.
Gene WelBeibl 38:13  A dwedodd rhywun wrth Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd yno.
Gene WelBeibl 38:14  Roedd Tamar yn gwybod fod Shela wedi tyfu, ac eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo. Felly dyma Tamar yn newid o'r dillad oedd yn dangos ei bod hi'n weddw, gwisgo i fyny, a rhoi fêl dros ei hwyneb. Yna aeth i eistedd ar ochr y ffordd y tu allan i bentref Enaim, sydd ar y ffordd i Timna.
Gene WelBeibl 38:15  Pan welodd Jwda hi, roedd yn meddwl mai putain oedd hi, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb.
Gene WelBeibl 38:16  Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau cysgu hefo ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda mi?”
Gene WelBeibl 38:17  “Wna i anfon myn gafr i ti o'r praidd,” meddai Jwda. A dyma hi'n ateb, “Dim ond os ca i rywbeth i'w gadw'n ernes nes i ti anfon yr afr i mi.”
Gene WelBeibl 38:18  “Beth wyt ti eisiau?” meddai. “Y sêl yna sydd ar y cordyn am dy wddf, a dy ffon di.” Felly dyma fe'n eu rhoi nhw iddi. Cafodd ryw gyda hi, a dyma hi'n beichiogi.
Gene WelBeibl 38:19  Aeth Tamar i ffwrdd ar unwaith, tynnu'r fêl, a gwisgo'i dillad gweddw eto.
Gene WelBeibl 38:20  Dyma Jwda'n anfon ei ffrind o Adwlam gyda'r myn gafr iddi, ac i gael y pethau roddodd e iddi yn ôl. Ond roedd y ffrind yn methu dod o hyd iddi.
Gene WelBeibl 38:21  Dyma fe'n holi dynion yr ardal amdani. “Ble mae'r butain oedd ar ochr y ffordd yn Enaim?” “Does dim putain yma,” medden nhw.
Gene WelBeibl 38:22  Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain yno.”
Gene WelBeibl 38:23  “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno eto.”
Gene WelBeibl 38:24  Tua tri mis yn ddiweddarach, dwedodd rhywun wrth Jwda, “Mae Tamar, dy ferch-yng-nghyfraith, wedi bod yn cysgu o gwmpas. Mae hi'n disgwyl babi.” “Dewch â hi allan yma, a'i llosgi hi!” meddai Jwda.
Gene WelBeibl 38:25  Ond wrth iddyn nhw ddod â hi allan, dyma hi'n anfon neges at ei thad-yng-nghyfraith, “Y dyn sydd biau'r pethau yma sydd wedi fy ngwneud i'n feichiog. Edrych pwy sydd biau nhw – y sêl yma sydd ar gordyn, a'r ffon.”
Gene WelBeibl 38:26  Dyma Jwda'n gweld mai fe oedd piau nhw. “Hi sy'n iawn a fi sydd ar fai,” meddai. “Wnes i ddim ei rhoi hi'n wraig i'm mab Shela.” Wnaeth Jwda ddim cysgu gyda hi ar ôl hynny.
Gene WelBeibl 38:27  Pan ddaeth ei hamser hi, roedd ganddi efeilliaid.
Gene WelBeibl 38:28  Wrth iddi eni'r plant, dyma un plentyn yn gwthio ei law allan, a dyma'r fydwraig yn rhwymo edau goch am ei arddwrn, a dweud, “Hwn ddaeth allan gynta.”
Gene WelBeibl 38:29  Ond wedyn tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan o'i flaen. “Sut wnest ti lwyddo i wthio trwodd?” meddai'r fydwraig. Felly dyma'r plentyn hwnnw yn cael ei alw yn Perets.
Gene WelBeibl 38:30  Wedyn dyma'i frawd yn cael ei eni, gyda'r edau goch am ei arddwrn. A dyma fe'n cael ei alw yn Serach.