GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 16
Gene | WelBeibl | 16:1 | Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 16:2 | A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y ca i blant drwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho. | |
Gene | WelBeibl | 16:3 | Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan. | |
Gene | WelBeibl | 16:4 | Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar dyma hi'n beichiogi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres. | |
Gene | WelBeibl | 16:5 | Dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Boed i'r ARGLWYDD ddangos pwy sydd ar fai!” | |
Gene | WelBeibl | 16:6 | Ond atebodd Abram, “Gan mai dy forwyn di ydy hi, gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd. | |
Gene | WelBeibl | 16:7 | Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr. | |
Gene | WelBeibl | 16:8 | “Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble wyt ti wedi dod? I ble ti'n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.” | |
Gene | WelBeibl | 16:9 | Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.” | |
Gene | WelBeibl | 16:10 | Wedyn aeth ymlaen i ddweud, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di; bydd cymaint ohonyn nhw.” | |
Gene | WelBeibl | 16:11 | A dyma'r angel yn dweud wrthi: “Ti'n feichiog, ac yn mynd i gael mab. Rwyt i roi'r enw Ishmael iddo, am fod yr ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi'i ddiodde. | |
Gene | WelBeibl | 16:12 | Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt. Bydd yn erbyn pawb, a bydd pawb yn ei erbyn e. Bydd hyd yn oed yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.” | |
Gene | WelBeibl | 16:13 | Dyma Hagar yn galw'r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef ‛y Duw sy'n edrych arna i‛). “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy'n edrych ar fy ôl i?” meddai. ( | |
Gene | WelBeibl | 16:14 | A dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi. Mae hi rhwng Cadesh a Bered.) | |