Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 12
Gene WelBeibl 12:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti.
Gene WelBeibl 12:2  Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill.
Gene WelBeibl 12:3  Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
Gene WelBeibl 12:4  Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.)
Gene WelBeibl 12:5  Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi'u cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno
Gene WelBeibl 12:6  dyma Abram yn teithio drwy'r wlad ac yn cyrraedd derwen More, oedd yn lle addoli yn Sichem. (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
Gene WelBeibl 12:7  Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” Felly cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato.
Gene WelBeibl 12:8  Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de, a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 12:9  Yna teithiodd Abram yn ei flaen bob yn dipyn i gyfeiriad y Negef yn y de.
Gene WelBeibl 12:10  Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i'r Aifft i grwydro yno.
Gene WelBeibl 12:11  Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti'n ddynes hardd iawn.
Gene WelBeibl 12:12  Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw'n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di.
Gene WelBeibl 12:13  Dwed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw'n garedig ata i wedyn am eu bod nhw'n dy hoffi di, a bydda i'n saff.”
Gene WelBeibl 12:14  Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn.
Gene WelBeibl 12:15  Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm.
Gene WelBeibl 12:16  Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a chaethferched, a chamelod iddo.
Gene WelBeibl 12:17  Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas.
Gene WelBeibl 12:18  Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi?
Gene WelBeibl 12:19  Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi'n wraig i mi fy hun? Felly dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!”
Gene WelBeibl 12:20  Rhoddodd y Pharo orchymyn i'w filwyr yrru Abram a'i wraig a phopeth oedd ganddo, allan o'r wlad.