Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 34
Gene WelBeibl 34:1  Aeth Dina (merch Lea a Jacob) allan i weld rhai o ferched ifanc yr ardal.
Gene WelBeibl 34:2  Pan welodd Sechem hi (Sechem oedd yn fab i bennaeth yr ardal, Hamor yr Hefiad), cipiodd hi, ymosod yn rhywiol arni a'i threisio.
Gene WelBeibl 34:3  Ond wedyn syrthiodd yn ddwfn mewn cariad â hi a cheisiodd ennill ei serch.
Gene WelBeibl 34:4  Aeth at ei dad, Hamor, a dweud, “Dw i eisiau i ti gael y ferch yma yn wraig i mi.”
Gene WelBeibl 34:5  Clywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch, Dina. Roedd ei feibion allan yn y wlad yn gofalu am yr anifeiliaid ar y pryd. A phenderfynodd Jacob beidio dweud dim nes iddyn nhw ddod adre.
Gene WelBeibl 34:6  Yna dyma Hamor, tad Sechem, yn mynd i siarad â Jacob am Dina.
Gene WelBeibl 34:7  Yn y cyfamser, roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo'r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob – rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd.
Gene WelBeibl 34:8  Ond dyma Hamor yn apelio arnyn nhw, “Mae Sechem dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â'r ferch. Plîs gadewch iddo'i phriodi hi.
Gene WelBeibl 34:9  Gadewch i ni gytuno fod ein plant ni'n cael priodi ei gilydd. Gadewch i'ch merched chi briodi rhai o'n dynion ni, a gewch chi briodi ein merched ni.
Gene WelBeibl 34:10  Cewch fyw yma gyda ni. Mae'r wlad o'ch blaen chi. Arhoswch yma. Cewch fynd ble mynnwch chi, a phrynu tir yma.”
Gene WelBeibl 34:11  Wedyn dyma Sechem ei hun yn dweud wrth dad a brodyr Dina, “Plîs wnewch chi fy nerbyn i? Dw i'n fodlon rhoi i chi beth bynnag dych chi eisiau.
Gene WelBeibl 34:12  Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i'n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi'r ferch yn wraig i mi.”
Gene WelBeibl 34:13  Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad.
Gene WelBeibl 34:14  Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i'n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny'n gywilydd mawr arnon ni.
Gene WelBeibl 34:15  Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o'ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni.
Gene WelBeibl 34:16  Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni'n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni'n un bobl.
Gene WelBeibl 34:17  Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â'n chwaer gyda ni.”
Gene WelBeibl 34:18  Roedd eu cynnig yn swnio'n dda i Hamor a'i fab Sechem.
Gene WelBeibl 34:19  Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, cymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.)
Gene WelBeibl 34:20  Felly dyma Hamor a'i fab Sechem yn mynd at giât y dre ble roedden nhw'n byw i siarad â'r dynion yno. A dyma ddwedon nhw:
Gene WelBeibl 34:21  “Mae'r bobl yma'n gyfeillgar. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad yma, a mynd i ble fynnan nhw. Mae yna ddigon o dir iddyn nhw. Gadewch i ni briodi eu merched nhw, a cân nhw briodi ein merched ni.
Gene WelBeibl 34:22  Ond wnân nhw ddim ond cytuno i fyw gyda ni a bod yn un bobl gyda ni ar yr amod yma: rhaid i'n dynion ni i gyd gael eu henwaedu yr un fath â nhw.
Gene WelBeibl 34:23  Onid ni fydd piau'r holl anifeiliaid a phopeth arall sydd ganddyn nhw wedyn? Gadewch i ni gytuno gyda nhw a gadael iddyn nhw fyw gyda ni.”
Gene WelBeibl 34:24  Dyma'r dynion ar gyngor y dre yn cytuno gyda Hamor a'i fab Sechem. A dyma pob un o ddynion y dre yn mynd drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
Gene WelBeibl 34:25  Ddeuddydd wedyn, pan oedden nhw'n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi (brodyr Dina), i mewn i'r dre yn dawel fach, a lladd y dynion i gyd.
Gene WelBeibl 34:26  Dyma nhw'n lladd Hamor a'i fab Sechem, cymryd Dina o dŷ Sechem, a gadael.
Gene WelBeibl 34:27  Wedyn dyma feibion eraill Jacob yn mynd yno ac yn ysbeilio'r cyrff a'r dref, am fod eu chwaer wedi cael ei threisio.
Gene WelBeibl 34:28  Cymeron nhw ddefaid a geifr, ychen ac asynnod, a phopeth arall allen nhw ddod o hyd iddo yn y dref ei hun a'r ardal o'i chwmpas –
Gene WelBeibl 34:29  popeth o werth, y gwragedd a'r plant a phopeth oedd yn eu tai.
Gene WelBeibl 34:30  “Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi,” meddai Jacob wrth Simeon a Lefi. “Bydd pobl y wlad yma, y Canaaneaid a'r Peresiaid, yn fy nghasáu i. Does dim llawer ohonon ni. Os byddan nhw'n dod at ei gilydd ac ymosod arnon ni, bydd hi ar ben arnon ni i gyd. Byddwn ni'n cael ein dinistrio'n llwyr!”
Gene WelBeibl 34:31  Ond dyma Simeon a Lefi yn ei ateb, “Oedd hi'n iawn i'n chwaer ni gael ei thrin fel putain?”