GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 45
Gene | WelBeibl | 45:1 | Doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen pawb oedd o'i gwmpas. “Pawb allan!” meddai wrth ei weision. Felly wnaeth neb aros gydag e pan ddwedodd wrth ei frodyr pwy oedd e. | |
Gene | WelBeibl | 45:2 | Ond roedd yn crio mor uchel nes bod pawb drwy'r tŷ yn ei glywed. A daeth palas y Pharo i glywed am y peth. | |
Gene | WelBeibl | 45:3 | Dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Joseff ydw i! Ydy dad yn dal yn fyw?” Ond allai ei frodyr ddweud dim. Roedden nhw'n sefyll yn fud o'i flaen. | |
Gene | WelBeibl | 45:4 | A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw'n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i'r Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 45:5 | Peidiwch ypsetio na beio'ch hunain am fy ngwerthu i. Duw anfonodd fi yma o'ch blaen chi i achub bywydau. | |
Gene | WelBeibl | 45:6 | Dydy'r newyn yn y wlad yma ddim ond wedi para am ddwy flynedd hyd yn hyn. Mae pum mlynedd arall o newyn i ddod pan fydd y cnydau'n methu. | |
Gene | WelBeibl | 45:7 | Mae Duw wedi fy anfon i yma o'ch blaen chi er mwyn i rai ohonoch chi gael byw, ac i chi gael eich achub mewn ffordd ryfeddol. | |
Gene | WelBeibl | 45:8 | Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i'n gynghorydd i'r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 45:9 | Brysiwch adre i ddweud wrth dad fod Joseff ei fab yn dweud, ‘Mae Duw wedi fy ngwneud i'n bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr yma ata i ar unwaith. | |
Gene | WelBeibl | 45:10 | Cei fyw yn ardal Gosen. Byddi di'n agos ata i. Tyrd a dy deulu i gyd, a dy anifeiliaid a phopeth sydd gen ti. | |
Gene | WelBeibl | 45:11 | Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’ | |
Gene | WelBeibl | 45:13 | Rhaid i chi fynd i ddweud wrth dad am fy statws i yma yn yr Aifft, ac am bopeth dych chi wedi'i weld. Dewch â dad i lawr yma ar unwaith.” | |
Gene | WelBeibl | 45:14 | Wedyn dyma fe'n taflu ei freichiau am Benjamin a'i gofleidio. Roedd y ddau ohonyn nhw yn crio ym mreichiau ei gilydd. | |
Gene | WelBeibl | 45:15 | Yna, yn dal i grio, cusanodd ei frodyr eraill i gyd. A dyna pryd dechreuodd ei frodyr siarad ag e. | |
Gene | WelBeibl | 45:16 | Dyma'r newyddion yn cyrraedd palas y Pharo – “Mae brodyr Joseff wedi dod yma.” Roedd y Pharo a'i swyddogion yn hapus iawn. | |
Gene | WelBeibl | 45:17 | A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Dwed wrth dy frodyr: ‘Llwythwch eich anifeiliaid a mynd yn ôl i Canaan. | |
Gene | WelBeibl | 45:18 | Wedyn dewch â'ch tad a'ch teuluoedd i gyd ata i. Cewch y tir gorau yn yr Aifft gen i. Cewch fwyta'r bwyd gorau sy'n y wlad.’ | |
Gene | WelBeibl | 45:19 | A dywed hyn wrthyn nhw hefyd, ‘Cymerwch wagenni o'r Aifft i'ch plant a'ch gwragedd a'ch tad gael teithio yn ôl ynddyn nhw. | |
Gene | WelBeibl | 45:21 | Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith. | |
Gene | WelBeibl | 45:22 | Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian. | |
Gene | WelBeibl | 45:23 | Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi'u llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi'u llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl. | |
Gene | WelBeibl | 45:24 | Wedyn dyma fe'n anfon ei frodyr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adael dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Peidiwch dechrau poeni am bethau ar eich ffordd.” | |
Gene | WelBeibl | 45:26 | “Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau. | |
Gene | WelBeibl | 45:27 | Ond pan ddwedon nhw bopeth roedd Joseff wedi'i ddweud wrthyn nhw, a phan welodd y wagenni roedd Joseff wedi'u hanfon, dyma Jacob yn dechrau dod ato'i hun. | |