GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 20
Gene | WelBeibl | 20:1 | Symudodd Abraham i'r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn crwydro am gyfnod yn ardal Gerar | |
Gene | WelBeibl | 20:2 | dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo'i hun. | |
Gene | WelBeibl | 20:3 | Ond dyma Duw yn siarad ag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.” | |
Gene | WelBeibl | 20:4 | Doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi ar y pryd, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog? | |
Gene | WelBeibl | 20:5 | Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau'n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Rôn i'n gweithredu'n gwbl ddiniwed.” | |
Gene | WelBeibl | 20:6 | A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi. | |
Gene | WelBeibl | 20:7 | Felly, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr. Mae e'n broffwyd. Bydd e'n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti'n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.” | |
Gene | WelBeibl | 20:8 | Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw'i swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. | |
Gene | WelBeibl | 20:9 | Yna galwodd am Abraham a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le i ti? Pam wyt ti wedi achosi i mi a'm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.” | |
Gene | WelBeibl | 20:11 | A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Rôn i'n meddwl y byddech chi'n siŵr o'm lladd i er mwyn cael fy ngwraig. | |
Gene | WelBeibl | 20:12 | Ond yn digwydd bod, mae'n berffaith wir ei bod hi'n chwaer i mi. Mae gynnon ni'r un tad, ond dim yr un fam. Felly dyma fi'n ei phriodi hi. | |
Gene | WelBeibl | 20:13 | Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dwedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod ni'n frawd a chwaer.’” | |
Gene | WelBeibl | 20:14 | Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd. | |
Gene | WelBeibl | 20:16 | A dwedodd wrth Sara, “Dw i'n rhoi mil o ddarnau arian i dy ‛frawd‛ di. Dw i'n ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd o'i le.” | |
Gene | WelBeibl | 20:17 | Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, a'i wraig a'r merched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhw'n gallu cael plant eto. | |