I KINGS
Chapter 15
I Ki | WelBeibl | 15:1 | Daeth Abeiam yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam fab Nebat wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd. | |
I Ki | WelBeibl | 15:2 | Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Maacha, merch Afishalom. | |
I Ki | WelBeibl | 15:3 | Roedd yn gwneud yr un pethau drwg â'i dad o'i flaen. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd y Brenin Dafydd wedi bod. | |
I Ki | WelBeibl | 15:4 | Ond am ei fod yn un o ddisgynyddion Dafydd dyma'r ARGLWYDD ei Dduw yn cadw'r llinach yn fyw yn Jerwsalem, drwy roi mab iddo i'w olynu fel brenin a gwneud Jerwsalem yn ddiogel. | |
I Ki | WelBeibl | 15:5 | Roedd hyn am fod Dafydd wedi plesio'r ARGLWYDD, ac wedi bod yn gwbl ufudd iddo ar hyd ei oes (heblaw am beth wnaeth e i Wreia yr Hethiad). | |
I Ki | WelBeibl | 15:7 | Mae gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd y rhyfel wedi para rhwng Abeiam a Jeroboam. | |
I Ki | WelBeibl | 15:8 | Pan fu farw, cafodd Abeiam ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. | |
I Ki | WelBeibl | 15:9 | Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ugain mlynedd pan ddaeth Asa yn frenin ar Jwda. | |
I Ki | WelBeibl | 15:10 | Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg un o flynyddoedd. Maacha, merch Afishalom oedd ei nain. | |
I Ki | WelBeibl | 15:11 | Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd Asa yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. | |
I Ki | WelBeibl | 15:12 | Gyrrodd y dynion oedd yn buteiniaid teml allan o'r wlad, a chael gwared â'r holl eilunod ffiaidd roedd ei gyndadau wedi'u gwneud. | |
I Ki | WelBeibl | 15:13 | Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a'i losgi wrth Ddyffryn Cidron. | |
I Ki | WelBeibl | 15:14 | Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol, roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes. | |
I Ki | WelBeibl | 15:15 | Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi'u cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml yr ARGLWYDD. | |
I Ki | WelBeibl | 15:17 | Dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda, ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda. | |
I Ki | WelBeibl | 15:18 | Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a rhoi'r cwbl i'w weision i fynd i Damascus at Ben-hadad, brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda'r neges yma: | |
I Ki | WelBeibl | 15:19 | “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.” | |
I Ki | WelBeibl | 15:20 | Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y Brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Felly dyma nhw'n mynd a tharo Îon, Dan, Abel-beth-maacha a thir llwyth Nafftali i gyd, gan gynnwys ardal Cinnereth. | |
I Ki | WelBeibl | 15:21 | Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe'n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa. | |
I Ki | WelBeibl | 15:22 | Yna dyma'r Brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda – pawb yn ddieithriad – i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. A dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa. | |
I Ki | WelBeibl | 15:23 | Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o'r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa'n dioddef yn ddifrifol o'r gowt. | |
I Ki | WelBeibl | 15:24 | Pan fuodd Asa farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le. | |
I Ki | WelBeibl | 15:25 | Yn ystod ail flwyddyn Asa yn frenin ar Jwda, cafodd Nadab, mab Jeroboam, ei wneud yn frenin Israel. Bu Nadab yn frenin am ddwy flynedd. | |
I Ki | WelBeibl | 15:26 | Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel ei dad, ac yn gwneud i Israel bechu. | |
I Ki | WelBeibl | 15:27 | Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwynio yn erbyn Nadab a'i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd. | |
I Ki | WelBeibl | 15:28 | Lladdodd Baasha fe yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda. A daeth Baasha yn frenin ar Israel yn lle Nadab. | |
I Ki | WelBeibl | 15:29 | Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe'n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd neb o'r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio drwy ei was Achïa o Seilo. | |
I Ki | WelBeibl | 15:30 | Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel. | |
I Ki | WelBeibl | 15:31 | Mae gweddill hanes Nadab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
I Ki | WelBeibl | 15:32 | Roedd Asa, brenin Jwda, a Baasha, brenin Israel yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser. | |
I Ki | WelBeibl | 15:33 | Yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda, daeth Baasha yn frenin ar Israel yn ninas Tirtsa. Bu Baasha'n frenin am ddau ddeg pedair o flynyddoedd. | |