II SAMUEL
Chapter 3
II S | WelBeibl | 3:1 | Aeth y rhyfel rhwng pobl Saul a phobl Dafydd ymlaen am amser hir. Roedd ochr Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, a dilynwyr Saul yn mynd yn wannach. | |
II S | WelBeibl | 3:2 | Cafodd Dafydd nifer o feibion pan oedd yn byw yn Hebron. Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel. | |
II S | WelBeibl | 3:3 | Yr ail oedd Cileab, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal. Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr. | |
II S | WelBeibl | 3:5 | Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd. Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron. | |
II S | WelBeibl | 3:6 | Wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo'i hun ar ochr Saul. | |
II S | WelBeibl | 3:7 | Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda phartner fy nhad?” | |
II S | WelBeibl | 3:8 | Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Hyd yn hyn dw i wedi aros yn ffyddlon i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau; a wnes i ddim dy fradychu di i ochr Dafydd. A beth wyt ti'n wneud? – fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna! | |
II S | WelBeibl | 3:9 | Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi'i addo iddo. | |
II S | WelBeibl | 3:10 | Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de.” | |
II S | WelBeibl | 3:12 | Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy'n rheoli'r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.” | |
II S | WelBeibl | 3:13 | Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei ddod ata i wedyn.” | |
II S | WelBeibl | 3:14 | Anfonodd Dafydd neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i'w chael hi.” | |
II S | WelBeibl | 3:15 | Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i'w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish. | |
II S | WelBeibl | 3:16 | A dyma'i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm. Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe'n troi'n ôl. | |
II S | WelBeibl | 3:17 | Yn y cyfamser, roedd Abner wedi cael gair gydag arweinwyr Israel. “Ers amser nawr, dych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin. | |
II S | WelBeibl | 3:18 | Wel, gwnewch hynny! Mae'r ARGLWYDD wedi dweud amdano, ‘Dw i'n mynd i ddefnyddio Dafydd i achub pobl Israel oddi wrth y Philistiaid ac oddi wrth eu gelynion i gyd.’” | |
II S | WelBeibl | 3:19 | Yna aeth i gael gair gyda phobl Benjamin. Yna dyma Abner yn mynd i Hebron i ddweud wrth Dafydd beth oedd Israel a llwyth Benjamin wedi'i gytuno. | |
II S | WelBeibl | 3:21 | Dwedodd Abner wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi'n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon. | |
II S | WelBeibl | 3:22 | Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.) | |
II S | WelBeibl | 3:23 | Pan ddaeth Joab a'i filwyr yn ôl, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod wedi gadael iddo fynd yn heddychlon. | |
II S | WelBeibl | 3:24 | Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti'n wneud? Mae Abner wedi bod yma gyda ti, a ti wedi gadael iddo fynd! | |
II S | WelBeibl | 3:25 | Ti'n gwybod sut un ydy Abner. Dod i ysbïo arnat ti oedd e! Ffeindio allan beth ydy dy symudiadau di, a beth wyt ti'n ei wneud!” | |
II S | WelBeibl | 3:26 | Ar ôl gadael Dafydd dyma Joab yn anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl, a daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.) | |
II S | WelBeibl | 3:27 | Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o'r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yna dyma fe'n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a'i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel. | |
II S | WelBeibl | 3:28 | Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a'm pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai. | |
II S | WelBeibl | 3:29 | “Ar Joab mae'r bai. Caiff e a'i deulu dalu'r pris! Bydd rhywun o deulu Joab bob amser yn diodde o glefyd heintus ar ei bidyn, neu wahanglwyf, yn cerdded gyda baglau, wedi'i daro gan gleddyf, neu heb ddigon o fwyd!” | |
II S | WelBeibl | 3:30 | (Felly, roedd Joab a'i frawd Abishai wedi llofruddio Abner am ei fod e wedi lladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.) | |
II S | WelBeibl | 3:31 | Dyma Dafydd yn dweud wrth Joab a phawb oedd gydag e, “Rhwygwch eich dillad, gwisgwch sachliain, a galaru o flaen corff Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ei hun tu ôl i'r arch, | |
II S | WelBeibl | 3:32 | a dyma nhw'n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crio'n uchel wrth fedd Abner, ac roedd pawb arall yn crio hefyd. | |
II S | WelBeibl | 3:33 | Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner: “Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl? | |
II S | WelBeibl | 3:34 | Doeddet ddim wedi dy glymu; doedd dy draed ddim mewn cyffion; Ond syrthiaist fel dyn wedi'i ladd gan rai drwg.” A dyma pawb yn wylo drosto eto. | |
II S | WelBeibl | 3:35 | Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond roedd Dafydd wedi addo ar lw, “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!” | |
II S | WelBeibl | 3:36 | Roedd hynny wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw. | |
II S | WelBeibl | 3:37 | Roedd pawb, gan gynnwys pobl Israel, yn gweld fod gan y brenin ddim byd i'w wneud â llofruddio Abner fab Ner. | |
II S | WelBeibl | 3:38 | Dwedodd y brenin wrth ei swyddogion, “Ydych chi'n sylweddoli fod arweinydd milwrol mawr wedi marw yn Israel heddiw? | |