Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 6
Levi WelBeibl 6:2  “Pan mae rhywun yn troseddu yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD, drwy dwyllo person arall, dyma sydd raid ei wneud: “Os ydy rhywun yn gwrthod rhoi rhywbeth sydd yn ei ofal yn ôl. Neu os ydy e'n gwrthod talu benthyciad yn ôl. Neu os ydy e wedi dwyn rhywbeth. Neu os ydy e wedi gwneud elw ar draul rhywun arall.
Levi WelBeibl 6:3  Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy'r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o'r pethau yma, mae e'n pechu.
Levi WelBeibl 6:4  Os ydy e wedi'i gael yn euog o wneud unrhyw un o'r pethau yma, rhaid iddo dalu'n ôl beth bynnag oedd e wedi'i ddwyn.
Levi WelBeibl 6:5  Rhaid iddo dalu'r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i'w dalu i'r person gafodd ei dwyllo ganddo pan fydd wedi cael ei ddedfrydu'n euog o'r drosedd.
Levi WelBeibl 6:6  Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i'r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr.
Levi WelBeibl 6:7  Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o'i le.”
Levi WelBeibl 6:9  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm sydd i'w losgi: Mae'r offrwm i aros ar yr allor drwy'r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi.
Levi WelBeibl 6:10  Mae'r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a'i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu'r lludw sydd ar ôl wedi i'r offrwm gael ei losgi, a'i osod yn domen wrth ymyl yr allor.
Levi WelBeibl 6:11  Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â'r lludw allan i le tu allan i'r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.
Levi WelBeibl 6:12  Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae'n gosod yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr arno, ac yn llosgi braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 6:13  Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi drwy'r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd.
Levi WelBeibl 6:14  “Dyma'r drefn gyda'r offrwm o rawn: Rhaid i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen yr allor.
Levi WelBeibl 6:15  Maen nhw i gymryd llond dwrn o flawd gwenith ac olew yr offrwm, a'r thus i gyd, a'i losgi fel ernes ar yr allor – yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD ac yn ei atgoffa o'i ymrwymiad.
Levi WelBeibl 6:16  Bydd yr offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, yn bwyta'r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi'i gysegru, sef iard y Tabernacl.
Levi WelBeibl 6:17  Mae'r bara yma yn gysegredig iawn, fel yr offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r bara i gael ei bobi heb furum. Dw i'n ei roi i'r offeiriaid. Mae'n rhan o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno i mi ar yr allor.
Levi WelBeibl 6:18  Dim ond y dynion sy'n ddisgynyddion i Aaron sy'n cael ei fwyta. Dyma eu siâr nhw bob amser. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y bara fod wedi'i gysegru.”
Levi WelBeibl 6:20  “Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath â'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau
Levi WelBeibl 6:21  wedi'i gymysgu gydag olew olewydd a'i grasu ar radell. Rhaid iddo fod wedi'i socian mewn olew, ei dorri yn ddarnau, a'i gyflwyno yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 6:22  Yr Archoffeiriad sydd i'w baratoi. Siâr yr ARGLWYDD ydy hwn bob amser, ac mae i gael ei losgi'n llwyr ar yr allor.
Levi WelBeibl 6:23  Mae'r offrwm grawn sy'n cael ei roi gan offeiriad i gael ei losgi'n llwyr. Dydy e ddim i gael ei fwyta.”
Levi WelBeibl 6:25  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm i lanhau o bechod: Mae'r offrwm i lanhau o bechod i gael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 6:26  Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r aberth sydd i'w fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi'i gysegru, sef yn iard y Tabernacl.
Levi WelBeibl 6:27  Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y cig fod wedi'i gysegru. Os ydy gwaed yr aberth yn sblasio ar wisg yr offeiriad, rhaid golchi'r dilledyn mewn lle sydd wedi'i gysegru.
Levi WelBeibl 6:28  Rhaid i unrhyw lestr pridd gafodd ei ddefnyddio i ferwi'r cig gael ei dorri wedyn. Ond os ydy'r cig yn cael ei ferwi mewn llestr pres, rhaid ei sgwrio ac wedyn ei rinsio mewn dŵr.
Levi WelBeibl 6:29  Dim ond yr offeiriaid, sef y dynion, sy'n cael ei fwyta. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 6:30  Ond os ydy peth o'r gwaed wedi cael ei gymryd i'r cysegr yn y Tabernacl i wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw, dydy'r offrwm hwnnw dros bechod ddim i gael ei fwyta. Rhaid i hwnnw gael ei losgi'n llwyr.