LUKE
Chapter 5
Luke | WelBeibl | 5:1 | Un diwrnod roedd Iesu'n sefyll ar lan Llyn Galilea, ac roedd tyrfa o bobl o'i gwmpas yn gwthio ymlaen i wrando ar neges Duw. | |
Luke | WelBeibl | 5:2 | Gwelodd fod dau gwch wedi'u gadael ar y lan tra oedd y pysgotwyr wrthi'n golchi eu rhwydi. | |
Luke | WelBeibl | 5:3 | Aeth i mewn i un o'r cychod, a gofyn i Simon, y perchennog, ei wthio allan ychydig oddi wrth y lan. Yna eisteddodd a dechrau dysgu'r bobl o'r cwch. | |
Luke | WelBeibl | 5:4 | Pan oedd wedi gorffen siarad dwedodd wrth Simon, “Dos â'r cwch allan lle mae'r dŵr yn ddwfn, a gollwng y rhwydi i ti gael dalfa o bysgod.” | |
Luke | WelBeibl | 5:5 | “Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni'n gweithio'n galed drwy'r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy'n gofyn, gollynga i y rhwydi.” | |
Luke | WelBeibl | 5:6 | Dyna wnaethon nhw a dyma nhw'n dal cymaint o bysgod nes i'r rhwydi ddechrau rhwygo. | |
Luke | WelBeibl | 5:7 | Dyma nhw'n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo! | |
Luke | WelBeibl | 5:8 | Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i'n ormod o bechadur!” | |
Luke | WelBeibl | 5:10 | ac felly hefyd partneriaid Simon – Iago ac Ioan, meibion Sebedeus. Dyma Iesu'n dweud wrth Simon, “Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di'n dal pobl yn lle pysgod.” | |
Luke | WelBeibl | 5:12 | Yn un o'r trefi dyma Iesu'n cyfarfod dyn oedd â gwahanglwyf dros ei gorff i gyd. Pan welodd hwnnw Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a chrefu am gael ei iacháu, “Arglwydd, gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.” | |
Luke | WelBeibl | 5:13 | Dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” A'r eiliad honno dyma'r gwahanglwyf yn diflannu. | |
Luke | WelBeibl | 5:14 | Ar ôl ei rybuddio i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd, dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad. Ac fel y dwedodd Moses, dos ag offrwm gyda ti, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” | |
Luke | WelBeibl | 5:15 | Ond roedd y newyddion amdano yn mynd ar led fwy a mwy. Roedd tyrfaoedd mawr o bobl yn dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. | |
Luke | WelBeibl | 5:17 | Un diwrnod, pan oedd Iesu wrthi'n dysgu'r bobl, roedd Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith yn eistedd, heb fod yn bell, yn gwrando arno. (Roedden nhw wedi dod yno o bob rhan o Galilea, a hefyd o Jwdea a Jerwsalem.) Ac roedd nerth yr Arglwydd yn galluogi Iesu i iacháu pobl. | |
Luke | WelBeibl | 5:18 | A dyma ryw bobl yn dod â dyn oedd wedi'i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Roedden nhw'n ceisio mynd i mewn i'w osod i orwedd o flaen Iesu. | |
Luke | WelBeibl | 5:19 | Pan wnaethon nhw fethu gwneud hynny am fod yno gymaint o dyrfa, dyma nhw'n mynd i fyny ar y to a thynnu teils o'r to i'w ollwng i lawr ar ei fatras i ganol y dyrfa, reit o flaen Iesu. | |
Luke | WelBeibl | 5:20 | Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn, “Mae dy bechodau wedi'u maddau.” | |
Luke | WelBeibl | 5:21 | Dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau meddwl, “Pwy ydy hwn, ei fod yn cablu fel hyn? Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!” | |
Luke | WelBeibl | 5:22 | Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd drwy'u meddyliau, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu? | |
Luke | WelBeibl | 5:23 | Ydy'n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi'u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’? | |
Luke | WelBeibl | 5:24 | Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi'i barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” | |
Luke | WelBeibl | 5:25 | A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a'r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw. | |
Luke | WelBeibl | 5:26 | Roedd pawb wedi'u syfrdanu'n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw. | |
Luke | WelBeibl | 5:27 | Ar ôl hyn aeth Iesu allan a gwelodd un oedd yn casglu trethi i Rufain, dyn o'r enw Lefi, yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; | |
Luke | WelBeibl | 5:29 | Dyma Lefi yn trefnu parti mawr i Iesu yn ei dŷ, ac roedd criw mawr o ddynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill yno'n bwyta gyda nhw. | |
Luke | WelBeibl | 5:30 | Ond dyma'r Phariseaid a'u harbenigwyr nhw yn y Gyfraith yn cwyno i'w ddisgyblion, “Pam dych chi'n bwyta ac yfed gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?” | |
Luke | WelBeibl | 5:32 | Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.” | |
Luke | WelBeibl | 5:33 | Dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Mae disgyblion Ioan yn ymprydio ac yn gweddïo'n aml, a disgyblion y Phariseaid yr un fath. Pam mae dy rai di yn dal ati i fwyta ac yfed drwy'r adeg?” | |
Luke | WelBeibl | 5:34 | Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi'n gorfodi pobl sy'n mynd i wledd briodas i ymprydio? Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! | |
Luke | WelBeibl | 5:35 | Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.” | |
Luke | WelBeibl | 5:36 | Yna dyma Iesu'n dweud fel hyn wrthyn nhw: “Does neb yn rhwygo darn o frethyn oddi ar ddilledyn newydd a'i ddefnyddio i drwsio hen ddilledyn. Byddai'r dilledyn newydd wedi'i rwygo, a'r darn newydd o frethyn ddim yn gweddu i'r hen. | |
Luke | WelBeibl | 5:37 | A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio, y gwin yn cael ei golli a'r poteli yn cael eu difetha. | |