DANIEL
Chapter 2
Dani | WelBeibl | 2:1 | Yn ystod yr ail flwyddyn pan oedd Nebwchadnesar yn frenin cafodd freuddwyd oedd yn ei boeni gymaint roedd yn colli cwsg am y peth. | |
Dani | WelBeibl | 2:2 | Dyma fe'n galw'r swynwyr, y dewiniaid, y consurwyr a'r dynion doeth at ei gilydd i esbonio'r freuddwyd iddo. Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen y brenin. | |
Dani | WelBeibl | 2:3 | A dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi cael breuddwyd, a dw i eisiau gwybod beth ydy'r ystyr.” | |
Dani | WelBeibl | 2:4 | A dyma'r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae'n ei olygu.” | |
Dani | WelBeibl | 2:5 | “Na,” meddai'r brenin, “dim o gwbl. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae'n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi'n cael eu rhwygo'n ddarnau, a'ch cartrefi'n cael eu troi'n domen sbwriel! | |
Dani | WelBeibl | 2:6 | Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae'n ei olygu, bydda i'n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae'n ei olygu!” | |
Dani | WelBeibl | 2:7 | Ond dyma nhw'n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae'n ei olygu.” | |
Dani | WelBeibl | 2:8 | “Dw i'n deall eich gêm chi,” meddai'r brenin. “Dych chi'n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi'n chwarae am amser. | |
Dani | WelBeibl | 2:9 | Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.” | |
Dani | WelBeibl | 2:10 | A dyma'r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae'r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i'w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth. | |
Dani | WelBeibl | 2:11 | Mae'r brenin yn gofyn am rywbeth sy'n amhosib! Dim ond y duwiau sy'n gwybod yr ateb – a dŷn nhw ddim yma gyda ni!” | |
Dani | WelBeibl | 2:12 | Pan glywodd hynny, dyma'r brenin yn gwylltio'n lân, a gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu lladd. | |
Dani | WelBeibl | 2:13 | Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a'i ffrindiau'n mynd i gael eu dienyddio hefyd. | |
Dani | WelBeibl | 2:14 | Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio'r dynion doeth i gyd. | |
Dani | WelBeibl | 2:15 | Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae'r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd. | |
Dani | WelBeibl | 2:16 | Felly dyma Daniel yn gofyn i'r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai'n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd. | |
Dani | WelBeibl | 2:17 | Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth. | |
Dani | WelBeibl | 2:18 | Gofynnodd iddyn nhw weddïo y byddai Duw'r nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Wedyn fydden nhw ddim yn cael eu dienyddio gyda gweddill dynion doeth Babilon. | |
Dani | WelBeibl | 2:19 | Y noson honno dyma Daniel yn cael yr ateb i'r dirgelwch, mewn gweledigaeth yn ystod y nos. A dyma fe'n moli Duw'r nefoedd, | |
Dani | WelBeibl | 2:21 | Fe sy'n rheoli amser ac yn arwain hanes. Fe sy'n codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw. Fe sy'n rhoi doethineb i'r doeth, a gwybodaeth i bobl ddeallus. | |
Dani | WelBeibl | 2:22 | Mae e'n datguddio pethau sy'n ddirgelwch llwyr. Mae e'n gweld beth sy'n y tywyllwch; mae golau o'i gwmpas e bob amser. | |
Dani | WelBeibl | 2:23 | Dw i'n dy foli di! Clod i ti! O Dduw fy hynafiaid. Rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth i mi. Ti wedi dangos beth roedden ni angen ei wybod, a rhoi i mi'r ateb i gwestiwn y brenin.” | |
Dani | WelBeibl | 2:24 | Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.” | |
Dani | WelBeibl | 2:25 | Felly'n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy'n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!” | |
Dani | WelBeibl | 2:26 | Dyma'r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti'n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu?” | |
Dani | WelBeibl | 2:27 | Dyma Daniel yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear – dynion doeth, swynwyr, dewiniaid na chonsurwyr – yn gallu datrys y dirgelwch yma i'r brenin. | |
Dani | WelBeibl | 2:28 | Ond mae yna Dduw yn y nefoedd sy'n gallu dangos ystyr pob dirgelwch. Mae'r Duw yma wedi dangos i Nebwchadnesar beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. “Dyma beth welsoch chi'n eich breuddwyd: | |
Dani | WelBeibl | 2:29 | Tra oedd y brenin yn cysgu yn ei wely cafodd freuddwyd am bethau yn y dyfodol. Dangosodd yr Un sy'n datrys pob dirgelwch bethau sy'n mynd i ddigwydd. | |
Dani | WelBeibl | 2:30 | Dw i ddim wedi cael yr ateb i'r dirgelwch am fy mod i'n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i'r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e. | |
Dani | WelBeibl | 2:31 | “Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth – roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio'n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. | |
Dani | WelBeibl | 2:32 | Roedd pen y cerflun wedi'i wneud o aur, ei frest a'i freichiau yn arian, ei fol a'i gluniau yn bres, | |
Dani | WelBeibl | 2:34 | Tra oeddech chi'n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma'r garreg yn taro'r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw'n ddarnau. | |
Dani | WelBeibl | 2:35 | A dyma'r cerflun anferth yn syrthio'n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A chafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma'r garreg wnaeth daro'r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i'w weld yn amlwg drwy'r byd i gyd. | |
Dani | WelBeibl | 2:37 | Eich mawrhydi, dych chi'n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw'r nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi. | |
Dani | WelBeibl | 2:38 | Dych chi'n teyrnasu ar y byd i gyd – ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwyllt ac adar yn byw. Chi ydy'r pen o aur. | |
Dani | WelBeibl | 2:39 | Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â'ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny, bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli'r byd i gyd – dyma'r un o bres. | |
Dani | WelBeibl | 2:40 | Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae'n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o'i blaen. | |
Dani | WelBeibl | 2:41 | Ac wedyn y traed a'r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi'i gymysgu â chrochenwaith ydy e. | |
Dani | WelBeibl | 2:43 | Mae'r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu drwy briodas, ond ddim yn aros gyda'i gilydd – yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda'i gilydd. | |
Dani | WelBeibl | 2:44 | “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw'r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a'i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu'r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth. | |
Dani | WelBeibl | 2:45 | Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu'r cwbl yn ddarnau – yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a'r aur. Mae'r Duw mawr wedi dangos i'r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae'r esboniad yn gywir hefyd.” | |
Dani | WelBeibl | 2:46 | Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn plygu o flaen Daniel â'i wyneb ar lawr, a gorchymyn cyflwyno aberthau a llosgi arogldarth iddo. | |
Dani | WelBeibl | 2:47 | Dwedodd wrth Daniel, “Ti ydy'r unig un sydd wedi gallu datrys y dirgelwch. Felly, does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd, ac yn feistr ar bob brenin. Mae e'n gallu datguddio pob dirgelwch!” | |
Dani | WelBeibl | 2:48 | Dyma'r brenin yn rhoi un o swyddi uchaf y deyrnas i Daniel, ac yn rhoi llwythi o anrhegion iddo. Gwnaeth Daniel yn llywodraethwr talaith Babilon gyfan, ac yn bennaeth dynion doeth Babilon i gyd. | |