DEUTERONOMY
Chapter 6
Deut | WelBeibl | 6:1 | “Dyma'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i mi i'w dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chi'n mynd. | |
Deut | WelBeibl | 6:2 | Byddwch chi'n dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadw'i reolau a'i orchmynion – chi, eich plant, a'ch wyrion a'ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a chewch fyw yn hir. | |
Deut | WelBeibl | 6:3 | Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn, bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chi'n tyfu'n aruthrol, ac fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. | |
Deut | WelBeibl | 6:5 | Rwyt i garu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth. | |
Deut | WelBeibl | 6:7 | Rwyt i'w dysgu'n gyson i dy blant, a'u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore. | |
Deut | WelBeibl | 6:10 | “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu; | |
Deut | WelBeibl | 6:11 | tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'u casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'u plannu. Digon i'w fwyta! | |
Deut | WelBeibl | 6:12 | Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. | |
Deut | WelBeibl | 6:13 | Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio'i enw e'n unig i dyngu llw. | |
Deut | WelBeibl | 6:15 | Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd e'n digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan o'r wlad. | |
Deut | WelBeibl | 6:17 | Gwnewch yn union beth mae'n ei orchymyn i chi, cadw ei ofynion a dilyn ei ganllawiau. | |
Deut | WelBeibl | 6:18 | Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'ch gelynion chi allan, a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi. | |
Deut | WelBeibl | 6:19 | Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'ch gelynion chi allan, a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi. | |
Deut | WelBeibl | 6:20 | Yna pan fydd eich plant yn gofyn i chi, ‘Pam wnaeth Duw roi'r gofynion a'r rheolau a'r canllawiau yma i ni?’ | |
Deut | WelBeibl | 6:21 | atebwch, ‘Roedden ni'n gaethweision y Pharo yn yr Aifft, ond dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft. | |
Deut | WelBeibl | 6:22 | Gwelon ni e'n gwneud pethau ofnadwy i wlad yr Aifft ac i'r Pharo a'i deulu – gwyrthiau rhyfeddol. | |
Deut | WelBeibl | 6:23 | Gollyngodd ni'n rhydd er mwyn rhoi i ni'r wlad roedd e wedi'i haddo i'n hynafiaid. | |
Deut | WelBeibl | 6:24 | Dwedodd wrthon ni am gadw'r rheolau yma i gyd, a'i barchu e, er mwyn i bethau fynd yn dda i ni, ac iddo'n cadw ni'n fyw fel mae wedi gwneud hyd heddiw. | |